google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Gymraes gyntaf i sicrhau dwy drwydded A Uefa yn gobeithio ysbrydoli

Advertisements

Mae cael un drwydded A Uefa yn dipyn o gamp, ond os oes modd cael dau, yna pam ddim mynd amdani?

Dyna oedd Del Morgan yn ei feddwl.

Morgan ydy’r Gymraes gyntaf sydd wedi llwyddo i dderbyn trwydded A Uefa, a hefyd trwydded A Uefa ar gyfer golwyr.

I Morgan, cyn-golwr tîm pêl droed merched Wrecsam ac sydd bellach yn hyfforddwr golwyr merched Lerpwl, mae’r aberth a’r ymdrech wedi bod yn un hir dymor.

“Mae hi wedi bod yn uchelgais ers i mi ddechrau hyfforddi dros 10 mlynedd yn ôl – ceisio cael y ddwy drwydded,” meddai.

“Yn y bôn, hyfforddwr golwyr ydw i, felly dyna lle dwi wedi canolbwyntio arno fwyaf.

“Ond o dan reolau Uefa mae’n rhaid cael trwydded allanol ac un y golwyr i fedru mynd i’r cam nesaf o ran hyfforddi golwyr.

“Dwi wastad eisiau rhoi’r her yna i fy hun – rhywbeth i fy sbarduno, a dwi mor falch fy mod i wedi penderfynu ei wneud.”


BBC News

Views: 1

See also  Teimlad 'sbesial' i gôr bechgyn Glantaf ar Britain's Got Talent

Check Also

Jac Morgan: Wales flanker backs captaincy credentials of Dewi Lake

Morgan missed eight Tests after suffering the shoulder injury at Principality Stadium in Steve Tandy’s …

Some autistic women are not going for smear tests, research shows

Autistic women say smear tests can leave them feeling distressed, dismissed and in pain, with …

Junior World Championship: Wales wing Bowen cleared to play after red card

Livewire wing Bowen had a strong season with Cardiff, scoring eight tries in 15 games …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Heavy equipment transport san diego ca. car transport wyoming. Heavy equipment transport orange county fl.