google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teimlad ‘sbesial’ i gôr bechgyn Glantaf ar Britain’s Got Talent

Advertisements

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun dywedodd Lloyd Macey: “Roedd e’n brofiad swreal i weld Simon [Cowell] eto ac i weld Alesha [Dixon] eto.

“Oedd e’n anhygoel, yn hollol wahanol yn amlwg [i’w brofiad ef yn 2017], yn sefyll yna yna teimlo balchder yn gweld yr holl fechgyn ar y llwyfan yna.

“Ond dwi mor falch bod Cymru, bod y byd, wedi llwyddo i weld nhw achos mae wedi bod yn anodd iawn i gadw’r gyfrinach am dros chwe mis.”

Ychwanegodd mai’r hyn oedd yn “hyfryd” oedd bod y bechgyn yn “credu yn eu hunain, a nes i deimlo hynny, bo’ nhw’n sefyll yna yn falch ac yn mwynhau’r canu”.

Fe wnaeth y côr ganu’r gân Never Enough o ffilm The Greatest Showman, ond dywedodd Mr Macey, “os maen nhw’n llwyddiannus nawr a bod nhw’n mynd ymlaen i’r rownd gyn derfynol… cawn weld wedyn beth fydd y dewis, a Chymraeg neu Saesneg, cyfuno’r ddwy iaith”.

Ychwanegodd fod y côr wedi “bod yn ymarfer rhag ofn, a’r wobr yw pizza ar ddiwedd [yr ymarfer]!”.


BBC News

See also  Dynes yn pledio'n euog i werthu tocynnau Taylor Swift ffug am £3,000

Check Also

Rugby brain injuries case: High Court judge allows case to continue

Lawyers acting for those organisations wanted cases involving 377 players in union and 153 in …

Alun Wyn Jones: Former Wales captain returns to Ospreys as board member

Ospreys played amid uncertainty last season when owners Y11 Sports and Media attempted to take …

Rhossili cliff horses removed after more than 100 years in grazing rights row

The trust said it would engage with Beynon to “further understand” the number of horses …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime