google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Ofn prawf sgrinio serfigol fel menyw awtistig’

Mae Gemma Thomas, 33, o Frynaman a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth dair blynedd yn ôl, yn dweud bod mynd i’r apwyntiadau yn heriol.

“Fi’n cofio o’n i’n canslo nhw, drwy’r adeg, o’n i ‘di canslo am tua blywddyn achos o’n i’n ofn mynd,” meddai.

“O’n i’n ‘neud yr apwyntiad achos o’n i’n ymwybodol, maen nhw’n bwysig, maen nhw’n achub bywydau, ond odd actually mynd ar y dydd yn profi’n anodd.”

Dywedodd bod apwyntiadau meddygol, yn gyffredinol, yn heriol fel menyw awtistig.

“Y synhwyredd yw e, y goleuadau llachar, mae’n swnllyd, mae gwynt gwahanol, a ma’ hwnna’n cymryd dros berson awtistig,” dywedodd.

“Ma’ gweld person gwahanol brob tro yn gallu bod yn anodd.

“Chi’n trio ymdopi gyda’r boen, neu’r tostrwydd, neu smear test, a ma’ trio egluro beth chi’n teimlo yn anodd. Ma’ hwnna’n nodwedd o awtistiaeth.”

Ond, mae Gemma’n falch iddi fynd i’r apwyntiad.

“Tra o’n nhw’n ‘neud y prawf, o’n nhw ‘di gweld bod rhywbeth ddim cweit yn reit,” dywedodd.

“Es i i gael biopsy, a diolch byth o’dd popeth yn iawn, ond ‘nath e roi’r ofn hyn bod hi’n bwysig mynd am y smear tests hyn.”


BBC News

Advertisements

See also  Women's football in Wales - from a 50-year ban to Euro 2025

Check Also

Chwaer fach yn cwblhau Her y Tri Chopa i roi gobaith i’w brawd mawr

Yr anrheg Nadolig orau bosib i Rhiannedd, ei chwaer Melangell, a’u mam Beverley fyddai cael …

Cwis: Albyms gorau Cymru – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

We bought a one-way ticket to travel the world with our children

After selling their house at the start of the year, they lived in rented accommodation …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime