google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwpl o Wynedd yn codi arian am driniaeth canser arbrofol yn Yr Almaen

Advertisements

Yn ôl Emyr, mae’r driniaeth yn ystyried gwybodaeth genetig y canser sy’n gwneud hi’n haws ei dargedu.

Ond mi ddaw hynny ar gost, ac mae’r driniaeth sydd dan sylw yn costio oddeutu £150,000.

Mae Emyr eisoes wedi codi degau o filoedd ac yn dweud fod haelioni pobl wedi bod yn anhygoel.

“Ma’n boncyrs… oedd o’n emosiynol ynddo’i hun.

“O’n i’n meddwl ‘sa fo’n mynd fyny ond doeddwn i ddim yn meddwl ‘sa fo’n mynd fyny mor fast.

“O’n i’n disgwyl o rhywsut ond mae o mor overwhelming yn emotionally, especially pan oedd hi’n rili sâl oherwydd ti’n sylwi faint mae pobl yn meddwl o Meinir.

“Ma’ ‘di bod yn rili neis, yn amazing, anhygoel a ‘dan ni mor ddiolchgar.”

Yn ôl meddygon, gan fod gan Meinir ganser gradd 4 mae disgwyl i hynny derfynu ei bywyd ac mae Emyr yn dweud ei fod o ar dân eisiau gwneud y daith i’r cyfandir mewn gobaith o gael atebion.

“Mae ‘na ffenest ‘ŵan lle mae’n rhaid i hyn ddigwydd ac os ‘di o ddim… yn anffodus mae’r canser yn mynd i fynd yn waeth ac ella deith y diwedd.

“I ni mae’n amazing bod ni ‘di cyrraedd lle ‘dan ni wedi cyrraedd – ‘dan ni mor ddiolchgar.”


BBC News

Views: 2

See also  Powys' oldest councillor for Llanidloes gives way to its youngest

Check Also

Public urged to keep away from wildfires as Eryri drone operators rescued

Search and rescue volunteers are urging people to stay away from wildfires, after two people …

The Rapture: Heatwave thriller resonates in today’s world – Iwan Rheon

Rheon has also shared the screen with Michael Sheen in the upcoming British si-fi comedy …

Prince of Wales boat tragedy that killed 15 remembered 60 years on

“This happened in the morning, at about 11 in the morning, and I was just …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Bestsounds acoustic guitar strap, soft cotton & le…. big black cock.