Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio athro yn dilyn digwyddiad mewn ysgol uwchradd yn Sir Benfro. Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau tua 15:20 brynhawn Iau yn dilyn adroddiadau bod “disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar …
Read More »Mam yn poeni am effaith cau ysgol yn Sir Gâr ar ei mab bregus
Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, mae cymunedau gwledig Cymraeg yn wynebu “chwalfa”. Ychwanegodd: “Yn yr ysgol hon mae plant o wahanol gefndiroedd, rhai sydd wedi symud mewn o ardaloedd di-Gymraeg, rhai gydag anghenion arbennig, i gyd yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo’n rhan o gymuned glos …
Read More »Ansicrwydd os gallai pêl-droediwr o Gaerdydd gynrychioli Cymru
Dywedodd Antonio Romano, “Mae’r sefyllfa yma’n rhyfedd iawn, ac os ydych chi’n darllen y gofynion, rydyn ni’n bodloni’r gofynion hynny. “I ni fel rhieni, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhoi pasbort iddo, bydd e’n Gymro ar hyd ei oes.” Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cynorthwyo Enzo …
Read More »Reform wedi gwrthod ymgeiswyr yn sgil sylwadau ar wefannau cymdeithasol
Dywedodd Mr O’Connell fod y blaid wedi gwneud “popeth o fewn eu gallu” drwy “bori drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gwneud profion cefndir”. “Dwi wedi bod drwy’r broses fy hun ac mae’n gadarn iawn, mae’n drwyadl iawn,” meddai. “Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod o gwmpas bellach am dros 20 mlynedd, …
Read More »Ceidwadwyr: Addewid i dalu neiniau a theidiau am ofal plant
Dywedodd Darren Millar fod trefniadau gofal plant yn aml yn cynnwys neiniau a theidiau a’i fod am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu “cydnabod yn briodol”. Galwodd y cynlluniau yn “bolisi o blaid y teulu, o blaid dewis, o blaid rhieni ac o blaid neiniau a theidiau”. Pan …
Read More »Senedd Cymru i gael rôl ffurfiol wrth benodi cadeirydd S4C yn y dyfodol
Yr ysgrifennydd diwylliant yn San Steffan sy’n penodi cadeirydd S4C, ond mae ‘na gytundeb y bydden nhw’n ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â phenodiadau i fwrdd y darlledwr cenedlaethol. Mae gan bwyllgor materion Cymreig San Steffan rôl ffurfiol i’w chwarae yn y penodiad, ond gan nad yw darlledu wedi’i ddatganoli …
Read More »Cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio plismona yng Nghymru a Lloegr
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu De Cymru, Emma Woods: “Rydw i’n croesawu’r uchelgais i foderneiddio plismona, ond dylai unrhyw ddiwygio amddiffyn plismona cymunedol ac atebolrwydd lleol cryf – sy’n hanfodol ar gyfer cadw ein cymunedau yn ddiogel. “Gallai gwasanaeth heddlu cenedlaethol gynnig cyfleoedd i osgoi dyblygu a gwella cysondeb, …
Read More »Cadarnhad bod URC am werthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau eu bwriad i werthu Rygbi Caerdydd i berchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media. Cadarnhaodd URC eu bwriad brynhawn Iau “yn dilyn proses agored a thrylwyr”, gan ddweud bod y newyddion yn “sicrhau carreg filltir nodedig yn hanes rygbi Cymru”. Fe wnaeth URC …
Read More »Arian ar gyfer ‘ailddatblygiad mwyaf erioed’ Rheilffordd Talyllyn
Mae Rheilffordd Talyllyn wedi bod yn atyniad treftadaeth ers 75 mlynedd, ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru UNESCO. Gwirfoddolwyr sy’n gwneud y mwyafrif o’r gwaith, ac mae tua 450 i gyd, gyda rhai yn teithio o wledydd fel yr Unol Daleithiau, Denmarc, Awstralia a …
Read More »Cartref teulu wedi ei ddinistrio ar ôl i sgwter trydan achosi tân
Ar ôl colli’r cyfan yn y tân, dywedodd Chelsea Ann Buckler, un o ferched y teulu, fod ei chwaer yn lwcus o fod yn fyw ar ôl gorfod neidio o ffenest ei llofft i ddianc rhag y fflamau. “Mae hi’n fyw, ond mae hi bellach ar grutches, bron yn methu …
Read More »Lansio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl blynyddoedd o ddadlau
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd y CFfC wedi blaenoriaethu cynhyrchu bwyd ac nad oedd “yn addas i bwrpas”. “Hyd yn oed yn ei ffurf diwygiedig mae ‘na awgrym y bydd yn arwain at golli swyddi, lleihau niferoedd da byw ac incwm busnesau fferm ar draws Cymru,” meddai Samuel Kurtz …
Read More »Argyfwng costau byw: Annog mwy i sefydlu mannau cynnes
Mae Cyngor Sir Powys yn y broses o ddiweddaru ei rhwydwaith o fannau cynnes sy’n cynnig cyfleoedd cymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn ystod tywydd oerach. Mae’r cyngor yn dweud y gall “unrhyw sefydliad, busnes neu grŵp cymunedol” gofrestru i gael gwybod mwy. Fe ddywedodd y Cynghorydd …
Read More »Tadau’n dweud bod iselder ôl-enedigol yn effeithio arnyn nhw hefyd
Doedd Mark ddim yn gallu “prosesu trawma’r geni” meddai ac wedi’i lethu gan y newid mawr i fod yn dad roedd yn teimlon “numb” a arweiniodd at feddyliau o hunanladdiad. Dechreuodd droi at alcohol fel “ffordd o ymdopi” ac roedd yn ei chael hi’n anodd cael cysylltiad ag Ethan, er …
Read More »Dynion ifanc ‘gorhyderus’ yn destun pryder i dimau achub mynydd
O’r 22 o alwadau brys ym mis Tachwedd eleni, roedd angen pob aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis i helpu yn 15 o’r achosion. Yn ôl Cyngor Mynydda Prydain, mae’r sgrialfa gradd un i fyny Crib Goch yn gallu bod yn weddol syml i’r mwyafrif, ond yn gallu bod yn …
Read More »Blwyddyn arall ond yr un hen anhrefn i rygbi Cymru
Ac mae hyn oll yn gadael y problemau gwleidyddol anferthol, gydag Undeb Rygbi Cymru’n gwneud sawl tro pedol ynglŷn â’r ffordd ymlaen. O aros â phedwar tîm proffesiynol, lawr i ddau neu setlo bellach ar dri, mae’r cyfan wedi ei gynnig yn dilyn proses ymgynghorol gyda’r cyhoedd. Ond mae’r holl …
Read More »Llinos Griffin-Williams ‘wedi ei thrin yn wahanol’ i staff eraill wynebodd honiadau
Yn y dogfennau, mae Ms Griffin-Williams yn honni na chafodd unigolion eraill yn S4C oedd yn “wynebu honiadau allai fod gyfystyr â chamymddwyn difrifol” eu diswyddo, er dyw hi ddim yn enwi’r unigolion hynny. Mewn cyhuddiadau, mae hi’n honni ei bod hi’n “rheoli perfformiad aelodau o staff am gyhuddiadau o …
Read More »Cofio helynt Mordecai? 40 mlynedd ers Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig
“Roedd S4C wedi dangos diddordeb mewn cael rhywbeth ar gyfer plant i’r ‘Dolig,” meddai’r darlledwr Hywel Gwynfryn, yn trafod y broses o greu’r ffilm – o’r papur i’r sgrin. Felly fe aeth ati ynghyd â Caryl Parry Jones i greu Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig. “Mi ‘steddon ni lawr …
Read More »Tripledi o Geredigion eisiau helpu plant eraill sy’n colli rhiant
Draw yn Rhondda Cynon Taf, mae pennaeth un ysgol gynradd wedi gweld effaith cefnogaeth Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, wrth i riant plentyn yn yr ysgol gael triniaeth. Dywedodd Gavin Ashcroft o Ysgol Gymraeg Llwyncelyn ym Mhorth y byddai’n wych petai cefnogaeth o’r fath yn cael ei chynnig i bob ysgol. …
Read More »'Beyond what we imagined' Kildunne on life-changing year for Red Roses
Sports Personality of the Year runner-up and World Cup winner Ellie Kildunne talks about a history-making year for the Red Roses. BBC News
Read More »Cyngor Gwynedd yn colli apêl dros godi 18 o dai fforddiadwy
Ond roedd Cyngor Cymuned Botwnnog o’r farn nad oedd modd cefnogi’r datblygiad heb sicrwydd byddai’r tai yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig, ac y byddai cael pobl ddi-Gymraeg yn symud yno yn cael “effaith bellgyrhaeddol ar addysg ein pobl ifanc yn lleol”. Ond dywedodd y cynghorydd …
Read More »
Recent Comments