google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Blwyddyn arall ond yr un hen anhrefn i rygbi Cymru

Ac mae hyn oll yn gadael y problemau gwleidyddol anferthol, gydag Undeb Rygbi Cymru’n gwneud sawl tro pedol ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

O aros â phedwar tîm proffesiynol, lawr i ddau neu setlo bellach ar dri, mae’r cyfan wedi ei gynnig yn dilyn proses ymgynghorol gyda’r cyhoedd.

Ond mae’r holl ansicrwydd eisoes yn gyrru chwaraewyr i ffwrdd a chapten Cymru Jac Morgan a Dewi Lake yn barod wedi penderfynu codi pac i ymuno â Chaerloyw.

Heb os bydd mwy yn dilyn, a rygbi proffesiynol yn y gorllewin, a’r Gweilch yn benodol, o dan fygythiad a allai fod yn ergyd andwyol i’r gamp yn yr ardal.

Pwy a ŵyr beth a ddaw yn y flwyddyn newydd felly, ond wrth i 2025 ddirwyn i ben mae yna ryw deimlad o anobaith ynglŷn â’r bêl hirgron yng Nghymru ar bob lefel a dyfodol y gamp ei hun yn gynyddol o dan y chwyddwydr.


BBC News

Advertisements

See also  The best pictures from Oasis' return in Cardiff

Check Also

Nations League: Craig Bellamy ‘hurting’ as Wales outclassed by Denmark

Denmark dominated early on and saw Mikkel Damsgaard fire against the post shortly after Isaksen …

Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 2-0 Cymru

Cafodd Cymru ddechrau digon sionc i’r ail hanner hefyd, gan gynnwys ergyd gan Neco Williams …

Trecco Bay caravans for neurodivergent children may be forced to close

Flewers ended up owning four caravans and bookings would be taken up to two years …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime