google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Faint fysach chi’n fodlon talu am adfail heb do yn Llanberis?

Tŷ platfform oedd Tŷ Du yn wreiddiol, mae’n debyg, cyn gwaith yn y 17eg Ganrif i ychwanegu llawr arall.

Mae wedi ei nodi yn Rhestr y Comisiwn Brenhinol fel adeilad domestig pwysig yn y plwyf.

Dywed yr arwerthwyr bod waliau’r adfail yn gyfan hyd at lefel y bondo, ac mae dau adeilad arall ar y safle yn rhan o’r gwerthiant – hen efail a hen siop.

Mae’r perchnogion, sydd o Ynys Môn, wedi diogelu ffrâm-A y to a darnau pren pellach.

Tu ôl i’r tŷ mae hen lwybr ceffylau pwn oedd yn arfer cysylltu Llanberis â Chaernarfon.

Fe fydd yr arwerthwyr yn derbyn cynigion am yr eiddo ar-lein ddydd Llun a dydd Mawrth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  'Nes i adael coleg i helpu mam efo costau byw'

Check Also

Nations League: Craig Bellamy ‘hurting’ as Wales outclassed by Denmark

Denmark dominated early on and saw Mikkel Damsgaard fire against the post shortly after Isaksen …

Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 2-0 Cymru

Cafodd Cymru ddechrau digon sionc i’r ail hanner hefyd, gan gynnwys ergyd gan Neco Williams …

Trecco Bay caravans for neurodivergent children may be forced to close

Flewers ended up owning four caravans and bookings would be taken up to two years …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime