google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 2-0 Cymru

Cafodd Cymru ddechrau digon sionc i’r ail hanner hefyd, gan gynnwys ergyd gan Neco Williams y bu’n rhaid i’r golwr Filip Jorgensen ei dargyfeirio.

Fe wnaethon nhw lwyddo i ddal fwy o afael ar y bêl, a mentro ymhellach i’r cae.

Roedd hynny cyn i Ddenmarc sicrhau cic rydd o safle beryglus wedi i Williams wthio Isaksen yn ei gefn.

Fe groesodd Mikkel Damsgaard y bêl yn gelfydd o ochr dde’r cae gan wibio heibio mur amddiffynnol Cymru i gyfeiriad Hojlund ac i gefn y rhwyd.

Er dathliad Hojlund, roedd lluniau’n dangos mai Ben Davies gafodd y cyffyrddiad olaf.

Gyda 52 munud ar y cloc, roedd Denmarc ar y blaen ond daeth Cymru’n agos at ddod yn gyfartal ryw bum munud yn ddiweddarach.

Fe groesodd Sorba Thomas gan anelu at ben Kieffer Moore – aeth y bêl fymryn dros ben yr ymosodwr a bu ond y dim iddo fynd i’r gôl, ond yn anffodus i Gymru aeth heibio ochr anghywir y postyn.

Daeth hanner cyfle wedi hynny i Brennan Johnson ac roedd yna ddihangfa i Gymru pan wnaeth Isaksen smonach o ymgais ben arall y maes.

Ond doedd dim smonach pan ddaeth ail gôl Denmarc – dan amgylchiadau tebyg iawn i’r un cyntaf.

Ildiodd Williams gic rydd ddi-angen unwaith yn rhagor ym mron yr un safle, ac er i Moore benio’r bêl o’r lein aeth ond cyn belled ag Isaksen.

Fe darodd ei gic y trawst cyn gwyro i’r rhwyd ac roedd Denmarc ddwy gôl ar y blaen wedi 66 o funudau.


BBC News

Advertisements

See also  URC: Injury-hit Scarlets throw new faces to the Lions

Check Also

County Championship: Glamorgan and Essex rained off on final day

Rothesay County Championship, Division One, Sophia Gardens, Cardiff (day four) Glamorgan 505: Tribe 184, Carlson …

Moby Dick: When Hollywood came to Fishguard 70 years ago

To celebrate 70 years since the release of the film, its legacy is a major …

Adam Jones: Former Wales prop sheds five stone in Cardiff half-marathon challenge

Jones started slowly as he adopted the “couch to 5k” approach. “As soon as I …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime