google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Twpsyn’ a ‘bwbach’ wedi eu hychwanegu i Eiriadur Rhydychen

Dywedodd Andrew Hawke, Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru bod y geiriau a’r termau Cymraeg neu Gymreig yn cael eu hychwanegu i’r OED “mewn cyd-destun Saesneg”, ac yn cael eu cynnwys pan fo nifer o enghreifftiau o’r un gair neu derm yn dod i’r amlwg.

Y gair Cymraeg hynaf o’r rhai diweddaraf i’w cynnwys ydi ‘bwbach’ – sy’n deillio’n ôl i’r 14eg ganrif, a sy’n air o chwedloniaeth Gymreig yn cyfeirio at gymeriad fel bwgan, neu fwci bo neu ellyll.

Eglurodd Andrew Hawke eu bod yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yn ailedrych eu hunain ar y gair hwnnw ar hyn o bryd.

Dywedodd hefyd bod ‘twpsyn’ yn enghraifft ddiddorol o air sydd mae’n debyg wedi ei fenthyg yn wreiddiol o’r Saesneg cyn cyrraedd yr OED fel gair Cymraeg.

“Beth sydd wedi digwydd mae’n debyg yn yr achos yna ydi bod ‘tup‘ sef ‘stupid person’ wedi cael ei fenthyg i’r Gymraeg, ac wedi lledu wedyn yn y Gymraeg a datblygu ffurfiau eraill fel twpsyn ac ati; a wedyn yn y de yn arbennig mae’n cael ei ddefnyddio ar lafar yn Saesneg a bobl ddi-Gymraeg hyd yn oed yn sôn am twps a twpsyn, a wedyn mae’n mynd yn ôl i’r OED fel benthyciad o’r Gymraeg ond wedi dod o’r Saesneg yn wreiddiol.”


BBC News

Advertisements

See also  Royal Mail: Letter arrives in Penarth instead of Australia

Check Also

‘Marathon nid ras wib’ i ailadeiladu Llafur Cymru – Ken Skates

Yn breifat, mae rhai ffigyrau amlwg o fewn y blaid yn cydnabod bod gan Lafur …

Y gŵr fu’n ddigartref sy’n ceisio adfywio’r gamp hynafol bando

Mae’r ymgyrch i adfywio bando wedi bod yn rhyw fath o achubiaeth i George, dywedodd. …

Elite League: Cardiff Devils beaten 3-1 at Sheffield Steelers in Challenge Cup

Cardiff Devils remain without a win on the road in the Challenge Cup having been …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime