google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y gŵr fu’n ddigartref sy’n ceisio adfywio’r gamp hynafol bando

Mae’r ymgyrch i adfywio bando wedi bod yn rhyw fath o achubiaeth i George, dywedodd.

“Pan wnes i symud i Gaerdydd do’n i ddim ar lwybr da iawn. Ro’n i’n ddigartref am ddwy neu dair blynedd. Ro’n i’n cymryd llawer o gyffuriau trwm.

“‘Nes i stopio cymryd cyffuriau, ac es i ddim allan am gyfnod hir. Ond, drwy lwc fe ddechreuodd bethau newid.

“Dechreuais siarad gyda mwy o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn rhannu’r un diddordebau â mi. A nawr dw i yma gyda chi yn siarad am adfywio bando!”

Mae pethau’n mynd o nerth i nerth iddo. Mae’n dechrau astudio yn y Brifysgol ddiwedd y mis er mwyn cael digon o gredydau i fynychu cwrs cyfieithu fel y gall weithio fel cyfieithydd Ffrangeg-Saesneg.

“Mae wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder i. Ar ôl y diwrnod cyflwyno yno, dw i’n teimlo fel fy mod i wedi cael fy nghyflwyno i gymuned hollol newydd.”

Ochr yn ochr â’i astudiaethau, mae George yn benderfynol o weld bando yn llwyddo.

“Y nod yw cael 15-bob-ochr. Os gallwn ni gael tîm merched hefyd, fe fyddai hynny’n wych.

“Dw i hefyd eisiau dysgu Cymraeg, a dw i’n chwilio am siaradwyr Cymraeg i fy helpu i.

“Mae dysgu Cymraeg yn hanfodol i mi ac yn ganolog i’r hyn dw i’n ceisio ei wneud efo bando.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  World Rally Championship: Sami Pajari makes history as he cuts into Elfyn Evans' lead

Check Also

County Championship: Dean Elgar leads Essex fightback v Glamorgan

Essex resumed at 100-7 but added just 29 runs in 12 overs as Toole made …

URC: Sharks 41-24 Ospreys – South Africans dominate Mark Jones’ men

Sharks: Giliomee; Hartzenberg, Julius, Koster, Bester; Moyo, Jaden Hendrikse; Ganyane, Swart, Koch, Rahl, Landsberg, P …

Netball World Cup: Wales beat Ireland 33-76 to keep qualification hopes alive

Welsh Feathers kept alive their Netball World Cup qualification hopes with a comfortable 76-33 win …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime