google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dwi erioed wedi arolygu tŷ newydd a chanfod dim byd o’i le’

Dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, sy’n cynrychioli’r diwydiant adeiladu, bod cartrefi yn “gynnyrch unigryw, wedi’u hadeiladu gan nifer o weithwyr, ar safleoedd sy’n aml yn agored i bob tywydd”.

“Mae’n anochel, ar rai achlysuron, y bydd ambell beth o’i le.”

Ychwanegodd y corff bod mwyafrif y materion sy’n cael eu codi yn bethau bach, a bod safonau adeiladu yn “parhau’n uchel iawn”.

Rhybuddion nhw hefyd nad oes rheolau pendant am safonau arolygwyr annibynnol.

Dywedodd Vistry, sy’n gyfrifol am y datblygwr Countryside a adeiladodd dŷ Charles a Georgina, eu bod yn cefnogi “arolygiadau annibynnol sy’n cael eu cynnal yn briodol fel sicrwydd pellach o safon y gwaith adeiladu”.

Ychwanegodd bod pob cartref yn cael ei gymeradwyo gan eu timau cyn i bobl symud i mewn, a bod adeiladwyr yn cwrdd â pherchnogion newydd o fewn y mis cyntaf i drafod unrhyw faterion sydd angen sylw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod prynwyr yn cael gwaith o safon a bod cefnogaeth iddyn nhw os yw unrhyw beth yn mynd o’i le.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn buddsoddi £39bn mewn cartrefi fforddiadwy a’u bod wedi clustnodi £625m i hyfforddi hyd at 60,000 o adeiladwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Keir Starmer yn ymddiheuro i AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts

Check Also

Lost document uncovers story of Merthyr Rising ‘hero’ Lewis Lewis

After weeks of rallies by miners and iron workers due to low wages and poor …

County Championship: Dean Elgar leads Essex fightback v Glamorgan

Essex resumed at 100-7 but added just 29 runs in 12 overs as Toole made …

URC: Sharks 41-24 Ospreys – South Africans dominate Mark Jones’ men

Sharks: Giliomee; Hartzenberg, Julius, Koster, Bester; Moyo, Jaden Hendrikse; Ganyane, Swart, Koch, Rahl, Landsberg, P …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime