Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd y CFfC wedi blaenoriaethu cynhyrchu bwyd ac nad oedd “yn addas i bwrpas”.
“Hyd yn oed yn ei ffurf diwygiedig mae ‘na awgrym y bydd yn arwain at golli swyddi, lleihau niferoedd da byw ac incwm busnesau fferm ar draws Cymru,” meddai Samuel Kurtz AS, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Economi a Materion Gwledig.
Byddai’r Ceidwadwyr yn adolygu’r CFfC ar frys ac yn ei ddisodli â “chynllun blaenoriaethu diogelwch bwyd,” esboniodd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig Llyr Gruffydd AS bod “y CFfC yn ei ffurf bresennol yn llawer gwell na’r cynnig gwreiddiol” ond roedd “gwaith i’w wneud o hyd”.
“Rydym eisoes wedi galw am broses drosglwyddo mwy graddol i’r cynllun newydd, gan roi mwy o amser i’r sector addasu,” esboniodd.
Aeth ymlaen i ddweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru “hefyd yn darparu sicrwydd cyllido aml-flwyddyn ar gyfer amaethyddiaeth yn hytrach na’r ymrwymiad deuddeg mis presennol gan Lafur.”
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Reform UK yng Nghymru nad oedd y CFfC wedi ennill hyder ffermwyr a roedd yn mynd i achosi ergyd sylweddol i’r economi wledig.
“Mae angen newid y CFfC er mwyn rhoi ffermio a chynhyrchu bwyd wrth galon y cynllun, nid targedau gwyrdd,” meddai.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds AS bod y CFfC yn cynnig ychydig o sicrwydd yn y tymor byr i ffermwyr “sydd dan bwysau parhaus o bob cyfeiriad”.
Ond nid dyma oedd y cynllun y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i ddylunio, meddai, a bod angen “atebion tymor hir” ar ffermwyr.
Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Anthony Slaughter bod “angen i’r llywodraeth wneud llawer mwy i gefnogi ffermwyr yn iawn i wneud y newidiadau sydd angen ar ein gwlad a’n planed”.
“Mae’r llywodraeth a’r cyhoedd yn gofyn am lot, a gall hyn ddim digwydd yn rhad. Mae maint y newid sydd ei angen yn golygu bod angen cyfateb hynny â maint y cyllid.
“Dwi ddim yn siŵr ein bod ni wedi gweld yr ymrwymiad yna eto,” meddai.
BBC News