google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pêl-droed: Casnewydd yn osgoi disgyn ond Wrecsam yn colli cyfle

Advertisements

Mae tîm pêl-droed Casnewydd wedi llwyddo i aros yn Adran Dau Lloegr a hynny mewn modd dramatig, wrth iddyn nhw sgorio dwy gôl hwyr i guro Barrow.

Gyda 15 munud yn weddill, roedd hi’n edrych yn debygol y byddai Casnewydd yn disgyn o’r gynghrair am y tro cyntaf mewn 13 mlynedd, ond 1-2 oedd y sgôr terfynol.

Tom Davies a Bobby Kamwa wnaeth hawlio’r goliau i Gasnewydd.

Ond nid dathlu oedd cefnogwyr Wrecsam ddydd Sadwrn, ar ôl i’w gêm yn erbyn Middlesbrough orffen yn gyfartal (2-2).

Mae hynny’n golygu eu bod yn colli allan ar gyfle i fod yn chweched yn y Bencampwriaeth ac felly safle yn y gemau ail-gyfle i fynd i gynghrair uchaf Lloegr.

Felly er gwaethaf goliau Josh Windass a Sam Smith, bydd Wrecsam yn aros yn yr un gynghrair at y tymor nesaf.

Ennill oedd hanes Abertawe yn yr un gynghrair, 3-1 yn erbyn Charlton, tra bod Caerdydd wedi colli 5-4 yn erbyn Mansfield yn Adran Un.


BBC News

Views: 2

See also  Rhyddhau llanc, 15, a gafodd ei arestio yn Cross Hands

Check Also

Glangwili Hospital ward closed after crusted scabies outbreak

A hospital ward has been closed following an outbreak of crusted scabies, a rare and …

Deeside welcome to Wales dragon disappears from road side

A landmark Welsh dragon meant to welcome motorists to Wales has disappeared from view after …

Christian Fuchs: There were many factors for sudden Newport County exit

Fuchs, a Premier League winner with Leicester City in 2016, decided to leave less than …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq liquid.