google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tripledi o Geredigion eisiau helpu plant eraill sy’n colli rhiant

Draw yn Rhondda Cynon Taf, mae pennaeth un ysgol gynradd wedi gweld effaith cefnogaeth Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, wrth i riant plentyn yn yr ysgol gael triniaeth.

Dywedodd Gavin Ashcroft o Ysgol Gymraeg Llwyncelyn ym Mhorth y byddai’n wych petai cefnogaeth o’r fath yn cael ei chynnig i bob ysgol.

“Mae Felindre wedi bod yn hollol wych. Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i ni fel staff, ond hefyd wedi bod yno i’r disgybl, ac mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy,” meddai.

“Roedd y sesiynau gyda’r dosbarth yn arbennig o bwysig, gan helpu’r plant i ddeall beth oedd yn digwydd mewn ffordd ofalus a sensitif.”

Ychwanegodd: “Mae disgyblion o wahanol oedrannau’n ymateb mewn ffyrdd gwahanol iawn ac mae cael arbenigwyr Felindre i’n harwain ni drwy’r broses wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd bod Felindre wedi eu helpu i sicrhau bod sgyrsiau’n “briodol, yn onest ac yn ofalgar”.


BBC News

Advertisements

See also  Y Wladfa: Ydyn ni'n rhamantu stori o goloneiddio?

Check Also

'Ystafell a phopeth yn barod ond gadael yr ysbyty heb fabi'

Ar wythnos ymwybyddiaeth colli babi mae mam o Gaerfyrddin yn rhannu’r profiad dirdynnol o golli …

‘Rhaid buddsoddi’ mewn sgiliau pobl ifanc cyn ‘colli cenhedlaeth i ddiweithdra’

Mae’r Gweinidog Sgiliau, Cefin Campbell AS, yn dweud ei fod yn deall y pryderon, ond …

Murluniau’n ‘fwy nag addurn’, maen nhw’n ‘adrodd ein hanes a’n hunaniaeth’

Mae Gwenllian Beynon, uwch ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime