google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cadarnhad bod URC am werthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch

Advertisements

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau eu bwriad i werthu Rygbi Caerdydd i berchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media.

Cadarnhaodd URC eu bwriad brynhawn Iau “yn dilyn proses agored a thrylwyr”, gan ddweud bod y newyddion yn “sicrhau carreg filltir nodedig yn hanes rygbi Cymru”.

Fe wnaeth URC gymryd rheolaeth o Rygbi Caerdydd ar ôl i endid cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill 2025.

Ers hynny mae URC wedi awgrymu torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri.

Dywedodd URC a’r Gweilch mewn datganiad y bydd y ddau glwb – Caerdydd a’r Gweilch – yn parhau’n sefydliadau ar wahân, er y byddai Y11 yn berchen ar y ddau.

Ond does dim sicrwydd wedi’i roi y bydd y Gweilch yn parhau fel clwb proffesiynol tu hwnt i dymor 2026-27.


BBC News

See also  Pryder wrth i feddygfa Tyddewi ddychwelyd ei chytundeb

Check Also

Network Rail yn erlyn dau gwmni am £5m wedi damwain trên Llangennech

Mewn dogfennau llys, sydd wedi’u gweld gan y Press Association, honnodd Network Rail bod y …

People urged to get tested for syphilis in Swansea Bay health board area

Porter believes many people are not aware syphilis can be contracted via oral sex alone. …

Network Rail sues companies for £5m over Llanegennech derailment

Network Rail is suing two rail companies for more than £5m after a fuel spill …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime