google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Cofio helynt Mordecai? 40 mlynedd ers Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig

“Roedd S4C wedi dangos diddordeb mewn cael rhywbeth ar gyfer plant i’r ‘Dolig,” meddai’r darlledwr Hywel Gwynfryn, yn trafod y broses o greu’r ffilm – o’r papur i’r sgrin.

Felly fe aeth ati ynghyd â Caryl Parry Jones i greu Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig.

“Mi ‘steddon ni lawr ac mi ddaru hi awgrymu bod angen rhywbeth mawr, angen ffilm, angen story line lle mae rhywbeth anhygoel yn digwydd.

“Beth am gael y cymeriad drwg iawn iawn y bysa’ pawb yn ei licio, yn penderfynu dwyn y ‘Dolig a phenderfynu sianelu arian holl siopau’r byd i mewn i’w boced ei hun?

“Dyna oedd y syniad gwreiddiol,” esboniodd.

Nid dyma oedd y tro cyntaf i’r ddau weithio â’i gilydd. Beth felly yw cyfrinach llwyddiant y cydweithio?

“Mewn unrhyw ddeuawd llwyddiannus, medda hi, mae angen dau berson, un i eistedd lawr a’r llall i gerdded o gwmpas,” meddai Hywel Gwynfryn.

“Wedyn fi oedd yn eistedd i lawr a hi oedd yn cerdded o gwmpas!

“Oeddan ni’n mynd i wneud y gwaith yng nghegin Caryl, ac mi oedd o’n ffantastig ac oedd hi’n coginio bwyd neis, fel sosej a grefi – jyst y fath o fwyd oeddech chi eisiau i’ch cynnal chi.

“A chawson ni hwyl garw. Ma’ hynna’n bwysig achos ‘da chi’n dod â’r hwyl ‘na mewn i’r darn.”


BBC News

Advertisements

See also  Hywel Gwynfryn: Uchafbwyntiau fy ngyrfa o'r archif ddarlledu

Check Also

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime