google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ann Davies AS: O atal dweud i siarad ar lawr Tŷ’r Cyffredin

Advertisements

Mae’r gwleidydd Ann Davies wedi sôn sut wnaeth cerddoriaeth a Chlwb Ffermwyr Ifanc ei helpu i ddod dros ei hatal dweud.

Er ei bod hi bellach yn siarad yn hyderus ar ran ei hetholwyr ar lawr Tŷ’r Cyffredin, pan oedd hi’n blentyn roedd hi’n arfer cael trafferth siarad o flaen ei chyd-ddisgyblion.

Fe arweiniodd ati hi’n colli hyder a chael ei bwlio a chafodd gymorth therapydd lleferydd pan oedd hi’n ddisgybl.

Er ei bod hi wedi gallu siarad yn iawn ers ei hugeiniau cynnar mae’n dweud bod yr atal heb fynd yn llwyr, ond bod ganddi ffyrdd o ymdopi a’i reoli.

Dywedodd bod yr atal yn “ofnadwy” pan oedd hi’n blentyn a’i bod yn dal i gofio ei gwers gyntaf yn yr ysgol uwchradd pan alwyd arni i ddarllen o flaen y dosbarth.

“Fi dal yn cofio dros 50 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’ dal yn cofio’r teimlad yna o sefyll o flaen y dosbarth yn ffili dweud gair – o’n i ffili dweud gair,” meddai mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol.

“A fi’n siŵr bod e ddim ‘di para mwy na rhyw 10, 15 eiliad. Ond i fi ar y pryd oedd e’n teimlo fel diwrnod.

“A chwarae teg i’r athrawes wnaeth hi jest dweud ‘o, cadw nôl, ishe di lawr’ a daeth rhywun arall ‘mlân.”


BBC News

See also  United Rugby Championship: Cardiff v Lions - Matt Sherratt makes two changes

Check Also

Thug jailed for campsite attack and crime gang locked up

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Galw am ohirio cynllun dangos pasport wrth deithio ar fferis i Iwerddon

Gan bod y Deyrnas Unedig a Chymru yn rhan o’r Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel …

No unconditional support to arms industry, says Welsh government

The Defence Security Resilience Cymru conference opened on Thursday at the International Convention Centre, near …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime