google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

Cyngor yn ceisio atal tipio ‘miloedd o dunelli o wastraff’ ger pentref

Daw’r ymchwiliadau yng Nghoed-poeth wrth i safle arall – tua hanner milltir i ffwrdd ar gyrion pentref Mwynglawdd – weld dwsinau o lorïau yn gollwng gwastraff, gyda charafanau yn cael eu gosod gyferbyn â thai preswyl dros benwythnos gŵyl y banc.

Dywedodd un preswylydd fod “llawer iawn o ddifrod” wedi’i achosi o fewn ychydig oriau, wrth i ddeunydd “o natur anhysbys” gael ei ollwng ar gae gyferbyn â thai yn Nantlais.

Cafodd y tir ei werthu tua deufis yn ôl gan y Cynghorydd Eddie Roberts, a ddywedodd ei fod wedi prynu’r tir rai blynyddoedd yn ôl fel tir fferm, ond does dim cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer datblygu ar y safle.

Dywedodd SOS Aggregates eu bod wedi cludo deunydd adeiladu wedi’i ailgylchu i’r safle, ond nad ydyn nhw’n rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud yno ac nad nhw sy’n berchen ar y tir.

Mae Cyngor Sir Wrecsam wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Llandovery recognised as joint birthplace of Welsh rugby

Check Also

Ioan Hepburn follows in Sir Jason Kenny’s footsteps with two golds

Welsh track cyclist Ioan Hepburn is aiming high in his next four-year cycle after ending …

Ymchwiliad i farwolaeth dynes yn Aberteifi yn dod i ben heb gyhuddiadau

Mae ymchwiliad i farwolaeth dynes 21 oed yn Aberteifi wedi dod i ben heb i …

Eight-year-old boy runs 32 miles and scales 15 summits in a single day

Benji, from Llanberis, finished the Welsh 3000s challenge in less than 16 hours. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime