google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llinos Griffin-Williams ‘wedi ei thrin yn wahanol’ i staff eraill wynebodd honiadau

Advertisements

Yn y dogfennau, mae Ms Griffin-Williams yn honni na chafodd unigolion eraill yn S4C oedd yn “wynebu honiadau allai fod gyfystyr â chamymddwyn difrifol” eu diswyddo, er dyw hi ddim yn enwi’r unigolion hynny.

Mewn cyhuddiadau, mae hi’n honni ei bod hi’n “rheoli perfformiad aelodau o staff am gyhuddiadau o gamymddwyn”.

Mae hi’n honni bod aelodau o staff wedi bod yn “drwm dan ddylanwad alcohol” mewn digwyddiadau gwaith fel seremonïau gwobrwyo a taw’r cyngor gan adran adnoddau dynol S4C oedd i beidio â chymryd camau yn erbyn yr unigolion hynny, i gael sgwrs anffurfiol, eu symud i dimau eraill neu i roi rhybudd anffurfiol.

Mae ei thîm cyfreithiol yn dadlau fod y broses yn ei herbyn yn annheg ac efallai y byddai cosb arall yn hytrach na diswyddo wedi bod yn addas petasai ei chyflogwr wedi bod yn “deg ac yn feddwl agored”.

Mewn datganiad dywedodd S4C eu bod eisoes wedi cyflwyno amddiffyniad i’r llys ac na fyddai’n briodol i wneud sylw pellach ar honiadau sydd heb gael eu clywed eto mewn achos llys.

Ychwanegodd y llefarydd: “Fel nodwyd yn ein hamddiffyniad i’r llys, nid oes cofnod o gwynion am yr ymddygiad amhriodol honedig gan unrhyw aelod arall o staff S4C.”

Dywedodd hefyd bod yr honiadau’n deillio o gyfnod dros ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny bod S4C “wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid o ran llywodraethant, rheolaeth a diwylliant i sicrhau bod yma weithle iach lle gall pawb ffynnu”.


BBC News

Views: 2

See also  Reeves's risky budget fightback | Politics News

Check Also

National Museum Cardiff closure for repairs not ruled out by culture minister

Asked if she was prepared to see the museum close, Heledd Fychan told BBC Radio …

Jonathan Davies yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

Jonathan Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026. Cafodd ei wobrwyo ar lwyfan …

‘Cytunodd fy merch, 18, yn syth i roi ei holl organau cyn marw’

Pwysleisiodd Ben Hume, is-reolwr y gwasanaeth organau a thrawsblaniadau yn y DU, pa mor bwysig …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfx kit black. elfbar elfliq with 10 mg/ml nicotine.