google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gareth Evans-Jones o Fôn yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn.

Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.

Mae’n parhau i lenydda, wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd ac Y Cylch, cyfrol o len micro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llen wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd wobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg 2025).

Mae hefyd wedi golygu a chyd-olygu cyfrolau academaidd a chreadigol, gan gynnwys Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ ac Ar Amrantiad.

Enillodd Fedal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 2019 a 2021, gyda rhai o’r gweithiau iddo’u sgriptio gael eu cynhyrchu, gan gynnwys Adar Papur (cynhyrchiad digidol ar YouTube), Ynys Alys (Fran Wen), a Dilyn Sgwarnog (Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon eleni). Mae hefyd yn barddoni ac fe luniodd cerdd groeso Eisteddfod yr Urdd 2026.

Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.

Mae’r fedal eleni yn rhoddedig gan Hazel, Geralyn, ac Eirlys Non er cof am eu rhieni, Gwynfi a Megan Williams, Blaenmorw, Capel Newydd i ddiolch am fagwraeth hyfryd a’u trwytho yn y “pethe”.

Mae’r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan John a Bethan Davies, Cwmbetws – John Davies yw cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 3

See also  Merthyr Tydfil sinkhole: Residents to return home

Check Also

Flood prevention work to cause rail disruption this month

Engineering work to prepare railway lines for the impact of flooding will cause some disruption …

‘Sioc’ teulu bod ‘dim casgliadau newydd’ o adolygiad marwolaethau brawd a chwaer

Daeth cwest yn 1977 i’r casgliad bod Martha Thomas, 70, oedd yn cael ei galw’n …

Swansea City: Vitor Matos keen to work with Ross Stewart, Zan Vipotnik and Adam Idah

Vipotnik, 24, has been linked with clubs across Europe in the wake of his spectacular …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Andarine (s4) and mk 677 value pack.