google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynion ifanc ‘gorhyderus’ yn destun pryder i dimau achub mynydd

Advertisements

O’r 22 o alwadau brys ym mis Tachwedd eleni, roedd angen pob aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis i helpu yn 15 o’r achosion.

Yn ôl Cyngor Mynydda Prydain, mae’r sgrialfa gradd un i fyny Crib Goch yn gallu bod yn weddol syml i’r mwyafrif, ond yn gallu bod yn heriol pan fo’r tywydd yn wael.

Yn y gaeaf, medd Jurgen Dissman, gall taith diwrnod arferol droi’n sefyllfa beryglus iawn yn gyflym iawn.

Pan fo’r tywydd yn rhy ddifrifol mae’n rhaid i’r tîm ddisgwyl i’r amodau wella, a gall hynny achosi oedi hir.

“Er ein hyfforddiant a phrofiad, mae diogelwch achubwyr wastad yn rhan bwysog o’r broses penderfynu,” ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Tîm Mynydd Aberhonddu, sy’n gwasanaethu ail barc cenedlaethol mwyaf Cymru, y Bannau Brycheiniog, eu bod nhw hefyd wedi derbyn galwadau wedi i bobl fethu â llwyr ystyried yr amodau.

Er bod Nathan yn credu y dylai pobl herio’u hunain, ychwanegodd ei bod hi’n bwysig hefyd i fod yn “realistig ac yn ymwybodol o’ch gallu eich hunain”.

“‘Dach chi’n gweld fideos o bobl yn gwneud yr holl bethau ‘ma. Mae’n hawdd meddwl y gallwch chi wneud yr un peth…

“Ond unwaith ‘dych chi yna, does dim troi’n ôl, a dyw hi ddim mor hawdd ac y mae’n ymddangos ar eich sgrîn.”


BBC News

Views: 0

See also  Watch: Car speeds off in Caerau, Cardiff, after gunshots fired

Check Also

Ruthin conman told victims on TInder he had cancer and was a millionaire

In a victim impact statement, she said she no longer trusted people. “It really upsets …

Ryde headteacher who changed term dates to go on cruise banned

Ballard was found to have changed school term dates in the 2023-24 academic year to …

Bus and van crash on A40 near Llandeilo as air ambulance called

A “serious” crash involving a coach and a van has shut a busy road in …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Datsun 240z pandem widebody kit.