Dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn hawdd i’r dramodydd a’r prifardd Aled Jones Williams o Gricieth – mae’n alcoholig, yn byw â chanser, a thra’n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru fe gollodd ei ffydd. Ond yn ddiweddar mae wedi ailddarganfod ei ffydd wedi iddo fod ar “ymylon anffyddiaeth …
Read More »Meysydd gwersylla dros dro i gael agor am dros ddwbl yr amser
“Rydym wedi buddsoddi llawer o amser ac arian mewn seilwaith parhaol, trwyddedau, mesurau amgylcheddol a chydymffurfiaeth gynllunio,” meddai. “Mae hyn yn dod gyda chostau sylweddol ac anorfod, megis ardrethi busnes, yswiriant, staff, rheoli gwastraff a chynnal a chadw parhaus. “Mae’r estyniad hwn yn rhoi mantais annheg i safleoedd dros dro …
Read More »Oedi cyfraith ar ôl i ddynes gael ei llofruddio yn achos gofid i deulu
Dywedodd tad Jade, Paul Ward nad oedd Marsh erioed wedi dangos unrhyw edifeirwch, a’i bod hi’n teimlo fel petai’n ceisio gwawdio’r teulu drwy geisio parhau i fod yn rhan o fywydau’r plant. Y gyfraith newydd oedd un o’r rhai olaf i gael eu pasio cyn Etholiad Cyffredinol 2024, ac ar …
Read More »Y Gymraeg a’r Wyddeleg yn ‘gallu dysgu gwersi o’i gilydd’
Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod ganddi ddiddordeb “mewn dysgu gwersi am effaith darpariaethau deddfwriaeth Iwerddon”. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i 20% o bobl sy’n cael eu recriwtio i’r sector cyhoeddus yn Iwerddon fod yn hyfedr yn y Wyddeleg erbyn 2030, ac y bydd pob swyddfa gyhoeddus yn …
Read More »Rhybudd o ‘risg sylweddol’ wrth gadw tomenni Ffos-y-Fran uwchben Merthyr
Dan y cynllun gwreiddiol, roedd tair tomen fawr oedd wedi ffurfio dros y blynyddoedd i fod i gael eu defnyddio i ail-lenwi’r twll 175 metr o ddyfnder lle bu’r cloddio’n digwydd. Mae’r tomenni yn cynnwys 37 miliwn o fetrau ciwbig o ddeunydd gafodd ei dynnu o’r tir tra bod y …
Read More »Cyhuddo pedwar ar ôl ymosodiad honedig ar fachgen ysgol
Mae dyn a thri bachgen wedi cael eu cyhuddo yn dilyn ymosodiad honedig ar fachgen ysgol yng Nghasnewydd yn gynharach eleni. Cafodd fideo ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Mai, oedd yn ymddangos fel petai grŵp o blant yn ymosod ar ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llyswyry, tra’i fod …
Read More »Yr Athro a’r awdur, Hazel Walford Davies, wedi marw yn 85 oed
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar fyd y theatr yng Nghymru, gan gynnwys Saunders Lewis a Theatr Garthewin (1995). Cyhoeddodd hefyd gyfrolau yn ymwneud â bywyd a gwaith Syr O M Edwards ac fe enillodd O M: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards wobr categori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn yn 2021. Hwn …
Read More »Staff grŵp cymunedol ym Mhen-y-bont yn talu i roi llety i fenywod bregus
Dywedodd Rebecca Lloyd, sydd yn gweithio i BARC, ei bod hi’n poeni am ddiogelwch Ms Potter. “Roedd hi’n -4 [gradd celsiws] neithiwr… dwi’n meddwl petai Tina ar y strydoedd neithiwr, yn y tywydd yna, a gyda chyflyrau Tina – mae ganddi gyflyrau corfforol ac iechyd meddwl – dwi’n credu y …
Read More »Ateb y Galw: Rolant Tomos
Ffynhonnell y llun, Rolant Tomos Awdur a chynhyrchydd teledu o Ddolgellau sy’n Ateb y Galw yr wythnos hon. Mae Rolant Tomos newydd ryddhau nofel i blant o’r enw Raaarrr am fachgen ifanc sy’n darganfod ei fod yn hanner blaidd wrth geisio achub fferm ei deulu rhag y banc. Dyma ei …
Read More »Gyrrwr lorri wedi beio pwl o dagu am achosi damwain angheuol
Roedd grym y gwrthdrawiad yn enfawr, medd yr ymchwilydd fforensig Dean Burnett o Heddlu Gwent. “I bob pwrpas, roedd fel petai un o’r cerbydau, neu’r ddau, wedi taro wal frics – wal frics sydd ddim yn chwalu, daeth y ddau i stop yn syth,” esboniodd. Bu’n rhaid torri Mr Rees, …
Read More »Y ferch a frwydrodd ei ffordd mewn i fyd academaidd y dynion
Pan ddaeth Angharad Llwyd i’r brig mewn cystadleuaeth yn eisteddfod 1828 yn Ninbych am lunio traethawd ar gestyll sir y Fflint, roedd gweld menyw yn ennill un o’r prif wobrau yn destun cryn ryfeddod. Adroddwyd yr hanes yn The Times ddwywaith, meddai Angharad yn llawn balchder wrth un o’i chyfeillion, …
Read More »Plaid Cymru: Cynllun annibyniaeth i Gymru ond nid yn y tymor cyntaf
Mae Plaid Cymru wedi addo cyhoeddi cynllun ar gyfer annibyniaeth i Gymru – ond nid o fewn tymor cyntaf llywodraeth a fyddai’n cael ei harwain gan y blaid. Yng nghynadledd y blaid yn Abertawe, cymeradwyodd aelodau gynnig eu harweinydd Rhun ap Iorwerth i sefydlu “comisiwn sefydlog” a fyddai’n siarad â’r …
Read More »Beth allwch chi ei fforio yn yr hydref?
Pan mae petalau’r rhosod i gyd wedi disgyn i ffwrdd diwedd yr haf, rydyn ni’n gweld aeron coch hyfryd yn y gwrychoedd. Mae egroes yn llawn antioxidants a fitamin C i gefnogi’r system imiwnedd. Roedd yn cael ei roi i blant yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel dôs o …
Read More »Pum munud gyda Bardd y Mis: Llŷr Gwyn Lewis
Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannyddDisgrifiad o’r llun, Llŷr Gwyn Lewis oedd Bardd y Mis cyntaf Radio Cymru nôl yn 2014 – ac ar ôl cyfnod eto yn 2017, mae o yn ei ôl ym mis Medi 2025. Mae o’n wyneb a llais cyfarwydd ym myd barddoniaeth Gymraeg ac wedi bod …
Read More »Newidiadau Undeb Rygbi Cymru: Galw am eglurder yn y gogledd
Yn ôl Gareth Davies, fu’n gadeirydd URC tan 2020, mae angen “negeseuon positif” gan yr undeb i’r gymuned rygbi y tu hwnt i’r lefel broffesiynol. “Fydden ni’n meddwl dylen nhw ganolbwyntio fwy ar trial egluro beth sy’n mynd ‘mlân,” meddai. “Ar y funud ‘na gyd ni’n gael yw’r headlines fel …
Read More »Cyflymder dau gar wedi ‘codi ofn’ ar yrwyr eraill cyn gwrthdrawiad
Roedd Anthony Demery, o Abertawe, yn teithio tua’r de ar yr A483 y noson honno pan ddaeth ar draws y gwrthdrawiad oedd newydd ddigwydd. Fe welodd “stêm neu fwg” ymhellach i fyny’r ffordd a pharcio’i gerbyd, a gweld wrth gerdded tua’r safle “X3 mewn darnau” ac Audi glas “yn fy …
Read More »Eisteddfod ‘sbesial’ Wrecsam yn rhoi ‘egni’ i gais Dinas Diwylliant
Ar faes yr Eisteddfod roedd gobaith bod yr Eisteddfod wedi rhoi “hwb” i’r cais Dinas Diwylliant, gyda “brwdfrydedd mawr yn y ddinas”, meddai Jane Thomas o Amgueddfa Wrecsam. Tebyg oedd teimladau Gareth Thomas, swyddog marchnata y farchnad a chanolfan gelfyddydol, Tŷ Pawb. Symudodd i Wrecsam oherwydd y diwylliant. Mae’n gitarydd …
Read More »20 wedi cystadlu am y Fedal Ddrama ar ei newydd wedd
Mae’r drafodaeth o gwmpas “helynt y fedal” yn rhan o gyd-destun ehangach. Mae nifer wedi sôn wrtha i am y “pryder cyffredinol” am statws y theatr ar faes yr Eisteddfod. Mae yna hiraeth hefyd am Theatr Fach y Maes a’r ddrama gomisiwn. “Mae’n wych cael theatr ar draws y maes …
Read More »
Recent Comments