Dan y cynllun gwreiddiol, roedd tair tomen fawr oedd wedi ffurfio dros y blynyddoedd i fod i gael eu defnyddio i ail-lenwi’r twll 175 metr o ddyfnder lle bu’r cloddio’n digwydd.
Mae’r tomenni yn cynnwys 37 miliwn o fetrau ciwbig o ddeunydd gafodd ei dynnu o’r tir tra bod y safle glo brig yn weithredol.
Bellach mae’r cwmni yn bwriadu lleihau uchder un o’r tomenni a gadael y ddwy arall.
Maen nhw yn eu disgrifio nhw fel rhai “sefydlog hirdymor”.
Byddai’r prif wagle – y twll mawr – yn dod yn “lyn naturiol”.
Mae’r cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Gyngor Merthyr Tudful a gomisiynodd adroddiad daearegol gan gwmni peirianyddol WSP.
Mae’r ddogfen yn dod i’r casgliad bod y tomenni wedi’u hadeiladu fel “cloddweithiau dros dro”.
Ar ben hynny, o weld cynlluniau’r datblygwr does na ddim modd bod yn hyderus y bydd y tomenni a’r llethrau yn parhau yn sefydlog na chwaith “yn peri risg parhaol i drigolion Merthyr”.
Dyw effaith newid hinsawdd “ddim yn ymdangos fel petai wedi’i ystyried” tra’i fod yn cael ei “ddisytyru heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny” mewn rhai achosion, rhybuddia’r ymgynghorwyr.
Maen nhw’n nodi bod un o’r tomenni – OB1 – sy’n codi oddeutu 170m uwch y brif ffordd yn ymyl Ffos-y-Fran – eisoes wedi profi tirlithriad yn 2022.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at “hanes diweddar o nifer o domenni yn methu ar draws de Cymru o ganlyniad i achosion o law sylweddol”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar eu bod yn sefydlu awdurdod newydd i gadw golwg ar hen domenni – bydd pencadlys yr awdurdod ym Merthyr Tudful.
Dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru, nad yw hi’n dderbyniol o gwbl i domenni glo Ffos-y-Fran ddod yn “gyfrifoldeb cyhoeddus”.
“Byddai’r corff newydd yn gorfod monitro a sicrhau eu bod nhw’n ddiogel,” meddai.
Mae cynllun newydd y cwmni yn “warthus”, ychwanegodd.
“Ry’m ni, y cyngor ac awdurdodau fel Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfod gwthio’r cwmni am ragor o wybodaeth a cheisio deall beth sy’n digwydd.
“Mae’r wybodaeth sydd wedi dod nôl yn dangos na fyddai’r cynllun yn ddiogel, ni fyddai’n adfer y tir ac ni fyddai er lles y gymuned leol.”
BBC News