Mae dynes a dwyllodd y GIG trwy weithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd gan ddefnyddio dogfen adnabod ffug, er nad oedd ganddi unrhyw gymwysterau meddygol, wedi osgoi dedfryd o garchar. Roedd Oluwabunmu Adeleiyi, 30, o Nigeria yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Nhreganna, Caerdydd ar fisa myfyriwr, yn …
Read More »Y Cyfweliad: ‘Dydi pobl ag anableddau dysgu ddim yn dwp’
O ofyn i Dafydd Iwan beth yw mêc ei beiriant golchi, i sylwadau am siwmper Elin Fflur, i gwestiynau treiddgar am effaith ADHD ar y gantores Bronwen Lewis, mae gwylwyr Y Cyfweliad ar S4C wedi chwerthin a chrïo dros yr wythnosau diwethaf. Yn y gyfres, bu criw o holwyr chwilfrydig …
Read More »Pont y Borth : Disgwyl gorffen gwaith atgyweirio erbyn y gwanwyn 2027
Mae Pont y Borth yn cyrraedd carreg filltir arbennig ddiwedd y mis – bydd hi’n 200 oed ar 30 Ionawr. Ychwanegodd Mr Skates: “Er ein bod i gyd yn siomedig na ellid cwblhau’r gwaith cyn y garreg filltir arwyddocaol hon, rhaid i ddiogelwch a chadernid strwythurol barhau i fod yn …
Read More »Cais cynllunio canolfan antur Bae Ceibwr wedi’i dynnu’n ôl
Roedd grŵp Wild Justice wedi dadlau y gallai’r ganolfan arwain at gynnydd mewn gweithgareddau mewn ardal sydd wedi’i dynodi’n ardal gadwraeth arbennig ac yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae Bae Ceibwr yn gartref i adar sy’n nythu ar y clogwyni, gan gynnwys gwylogod, brain coesgoch ac adar drycin y …
Read More »Her gyfreithiol Cyngor Môn yn erbyn fferm solar ddadleuol yn methu
Dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru, Gary Pritchard: “Fel Cyngor Sir, rydym wedi mynegi ein siom a’n rhwystredigaeth gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar Alaw Môn. Aeth y Cyngor ati felly i gynnal her gyfreithiol nol ym mis Hydref 2025. “Yn anffodus, gwrthodwyd caniatâd i fwrw ymlaen â’r …
Read More »Aled Jones Williams: Ailddarganfod ffydd wedi cyfnod anodd
Dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn hawdd i’r dramodydd a’r prifardd Aled Jones Williams o Gricieth – mae’n alcoholig, yn byw â chanser, a thra’n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru fe gollodd ei ffydd. Ond yn ddiweddar mae wedi ailddarganfod ei ffydd wedi iddo fod ar “ymylon anffyddiaeth …
Read More »Arian ar gyfer ‘ailddatblygiad mwyaf erioed’ Rheilffordd Talyllyn
Mae Rheilffordd Talyllyn wedi bod yn atyniad treftadaeth ers 75 mlynedd, ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru UNESCO. Gwirfoddolwyr sy’n gwneud y mwyafrif o’r gwaith, ac mae tua 450 i gyd, gyda rhai yn teithio o wledydd fel yr Unol Daleithiau, Denmarc, Awstralia a …
Read More »Sut oedd Cymry yn arfer dathlu gŵyl San Steffan?
Un traddodiad hanesyddol ar Ddydd San Steffan oedd hela’r dryw bach, er mae union wreiddiau’r arfer ychydig yn annelwig. Mae rhai yn dadlau bod y traddodiad yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol wrth i drigolion y gwledydd Celtaidd – gan gynnwys Cymru – ddathlu Duw’r goleuni trwy aberthu’r dryw bach. Roedd …
Read More »Beiciwr modur ‘addfwyn’ wedi marw wrth deithio adref o angladd
Roedd o bob amser yn barod i helpu gyda chodi arian neu gefnogi pobl mewn angen, meddai Mr Cross. Ychwanegodd fod Mr Bailey wedi cymryd diwrnod o’i waith er mwyn bod yn un o’r hebryngwyr yn yr angladd. Mewn neges ar Facebook, diolchodd teulu Kyle i Mr Bailey am ei …
Read More »Bangor: Dyn yn ddieuog o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus
Mae dyn 57 oed wedi ei gael yn ddieuog o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor ym mis Medi. Cafodd Stephen Mills, sydd heb gyfeiriad parhaol, ei gyhuddo wedi’r digwyddiad ar yr A487, Ffordd Treborth ar nos Fawrth, 23 Medi. Cafodd tri o bobl …
Read More »Yr archifydd roc a phop, Gari Melville wedi marw yn 70
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol rhannodd yr actor Ieuan Rhys ei “dristwch” wrth glywed y newyddion. Disgrifiodd Gary fel “dyn ffeind iawn” a “cymeriad a hanner.” “Cofio’i ddyddie gydag HTV – dyddie da,” meddai Ieuan. Ychwanegodd: “Cysga’n dawel Gari.” Mewn neges arall ar-lein, disgrifiodd y cerddor Alan Holmes Gari …
Read More »Emiliano Sala: Achos CPD Caerdydd yn erbyn Nantes i ddechrau
Mae anghydfod wedi bod rhwng Caerdydd a Nantes ers y ddamwain, gyda’r clwb Cymreig yn gwrthod talu’r rhandaliad cyntaf o’r ffi drosglwyddo nes cynnal ymchwiliadau i atebolrwydd. Arweiniodd y ffrae at FIFA yn gorchymyn i Gaerdydd dalu – gyda’r Adar Gleision yn apelio i CAS (Court of Arbitration for Sport). …
Read More »Teyrnged i fachgen 14 oed ‘anhygoel’ fu farw gydag MND
Mae rhieni bachgen 14 oed o Bontypridd fu farw o gyflwr motor niwron (MND) yr wythnos ddiwethaf wedi rhoi teyrnged i’w mab “anhygoel” ac “anghredadwy”. Y gred yw mai Kyle Sieniawski oedd y person ieuengaf oedd yn byw â’r cyflwr yn y DU. Roedd wedi bod yn dangos symptomau ers …
Read More »Rhybudd o ‘risg sylweddol’ wrth gadw tomenni Ffos-y-Fran uwchben Merthyr
Dan y cynllun gwreiddiol, roedd tair tomen fawr oedd wedi ffurfio dros y blynyddoedd i fod i gael eu defnyddio i ail-lenwi’r twll 175 metr o ddyfnder lle bu’r cloddio’n digwydd. Mae’r tomenni yn cynnwys 37 miliwn o fetrau ciwbig o ddeunydd gafodd ei dynnu o’r tir tra bod y …
Read More »Teyrnged teulu dyn fu farw wrth groesi llinell derfyn hanner marathon
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd y teulu y bydd Kory’n cael “ei gofio am ei garedigrwydd, ei natur ofalgar, ei hiwmor, ond yn bwysicach fyth, ac yn bwysicaf oll, ei wên heintus a fyddai’n goleuo ystafell. “Byddai’n gwenu ar bob cyfle,” meddai’r teulu a dyna y maen nhw am …
Read More »Diddymu rheol Erthygl 4 Gwynedd yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys
Yn Hydref 2022 fe gafodd awdurdodau lleol ar draws Cymru ragor o rymoedd gan Lywodraeth Cymru i reoli niferoedd ail gartrefi. Roedd Gwynedd – y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd yma – wedi derbyn 3,902 ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddenu ymateb cymysg. Mewn ardaloedd fel Aberdaron ym …
Read More »Pob tocyn cyngerdd Cowbois a’r Gerddorfa wedi mynd mewn 20 munud
Cafodd holl docynnau cyngerdd Cowbois Rhos Botwnnog a Cherddorfa’r BBC eu gwerthu mewn llai na hanner awr. Roedd seddi i’r noson yn Pontio, Bangor, yn mynd ar werth am hanner dydd ar 19 Tachwedd, ac o fewn ugain munud roedd y cyfan wedi mynd. Daw hyn wedi i’r band orfod …
Read More »Ystyried system draffig dair lôn i wella tagfeydd dros y Fenai
Wrth ymateb i ddatganiad Mr Skates, dywedodd Aelod o’r Senddd Ynys Môn fod y cynnydd ar wella gwytnwch croesiadau’r Fenai wedi bod yn “gwbl annigonol”. “Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru adleisio’r galwadau am fesurau gwytnwch yr wyf i a nifer o …
Read More »Nifer mewn gorymdaith i fynd i’r afael ag ail gartrefi ym Methesda
Yr un yw barn Tegwen Northam, sydd o Fethesda yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Rachub. Dywedodd: “Mae ‘na ormod o dai haf ym Methesda a thai air b&b hefyd. “Mae ‘na rai tai sy’n wag trwy’r flwyddyn,” meddai gan ddweud fod hyn yn “effeithio ar ein hiaith ni. …
Read More »Dathlu 90 mlynedd o ddarlledu gan y BBC ym Mangor
Ychwanegodd bod y cyfle i weithio o’r gogledd yn un arbennig. “Roedd yn eithriadol o bwysig bod y BBC wedi creu’r ganolfan yma ym Mangor achos cyn hynny rhyw gilcyn o ddaear mewn cilfach gefn oedd Cymru mewn gwirionedd cyn belled ag oedd y BBC yn y cwestiwn. “Mi oedd …
Read More »
Recent Comments