google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Her gyfreithiol Cyngor Môn yn erbyn fferm solar ddadleuol yn methu

Dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru, Gary Pritchard: “Fel Cyngor Sir, rydym wedi mynegi ein siom a’n rhwystredigaeth gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar Alaw Môn. Aeth y Cyngor ati felly i gynnal her gyfreithiol nol ym mis Hydref 2025.

“Yn anffodus, gwrthodwyd caniatâd i fwrw ymlaen â’r Adolygiad Barnwrol i herio Fferm Solar Alaw Môn gan y Barnwr yn Uchel Lys Caerdydd yn wreiddiol ar 14 Tachwedd, 2025.

“Rydym bellach ar ddeall fod y Cyngor Sir – mewn gwrandawiad llafar ychwanegol yn Uchel Lys Wrecsam ar 16 Ionawr – wedi methu yn ei gais ar gyfer adnewyddu’r penderfyniad.

“Mae’r canlyniad yn un hynod o siomedig ond rydym yn derbyn dyfarniad yr Uchel Lys a’r ffaith nad oes unrhyw lwybrau apelio pellach ar agor i’r Cyngor Sir.”

Ychwanegodd fod y datblygiad “wedi’i ganiatau gan Lywodraeth Cymru yn groes i bolisi ei hun mewn perthynas â defnyddio tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas”.

“Mae’r datblygiad arfaethedig yn dal i greu llawer iawn o bryder yn ein cymunedau,” ychwanegodd.


BBC News

Advertisements

See also  Hay-on-Wye biker dies in crash returning from teenager's funeral

Check Also

Iawn i ddefnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd – Llywydd

Gellir defnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd, mae Llywydd y Senedd wedi penderfynu. Dywedodd …

Sir Tom Jones tells fans he thought life ‘was over’ after flu

Sir Tom Jones has told fans he feared his life was “over” after being admitted …

Llangollen neighbours complain shed was built without permission

Neighbours who say they have been left “totally hemmed in” by a large timber shed …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime