google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr archifydd roc a phop, Gari Melville wedi marw yn 70

Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol rhannodd yr actor Ieuan Rhys ei “dristwch” wrth glywed y newyddion.

Disgrifiodd Gary fel “dyn ffeind iawn” a “cymeriad a hanner.”

“Cofio’i ddyddie gydag HTV – dyddie da,” meddai Ieuan.

Ychwanegodd: “Cysga’n dawel Gari.”

Mewn neges arall ar-lein, disgrifiodd y cerddor Alan Holmes Gari fel “un o anogwyr diwylliannol mwyaf Cymru.”

“Gweithiodd ei holl fywyd i gefnogi a hyrwyddo artistiaid cerddorol diddorol ac anghyffredin yn y wlad hon, ar adeg pan nad oedd llawer o bobl eraill yn gwneud hynny,” meddai Alan.

Dywedodd hefyd fod Gari wedi cael “effaith mor bwysig” ar ei fywyd, gan ei ddisgrifio fel person “hollol hyfryd.”

Dywedodd yr actor a digrifwr Mici Plwm fod Gari “yn wir golled i’r diwydiant ac i ni ei gyfeillion,” mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychwanegodd: “Dyma golli y person mwya gwreiddiol ei syniadau a’i weledigaeth brwdfrydig…Enseiclopidia ac Almanac mewn un a phob amser am wbod popeth oedd i wbod am y byd ‘pop’ Cymraeg – Archifydd Film a Fidio HTV am nifer fawr o flynyddoedd.”


BBC News

Advertisements

See also  How some countries are rethinking exercise

Check Also

Man bailed over 1993 unsolved Tooze murders faces no further action

Their daughter’s boyfriend Jonathan Jones was found guilty of their murders and sentenced to life …

World Rally Championship: Oliver Solberg turns up pressure on leader Elfyn Evans in Sardinia

The rally continues with a further 13 stages before the winner – and the 2026 …

Elite Ice Hockey League: Cardiff Devils seek home lift-off for title bid

The start of the 2026-27 season has also been hit by three players sustaining long …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime