google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

Emiliano Sala: Achos CPD Caerdydd yn erbyn Nantes i ddechrau

Advertisements

Mae anghydfod wedi bod rhwng Caerdydd a Nantes ers y ddamwain, gyda’r clwb Cymreig yn gwrthod talu’r rhandaliad cyntaf o’r ffi drosglwyddo nes cynnal ymchwiliadau i atebolrwydd.

Arweiniodd y ffrae at FIFA yn gorchymyn i Gaerdydd dalu – gyda’r Adar Gleision yn apelio i CAS (Court of Arbitration for Sport).

Gyda CAS yn cadarnhau penderfyniad FIFA, talodd Caerdydd y rhandaliad cyntaf ym mis Ionawr 2023 – gan ddod â gwaharddiad trosglwyddo cynghrair bêl-droed Lloegr (EFL) i ben – cyn talu gweddill y ffi yn ddiweddarach.

Ond mae’r clwb wastad wedi mynnu eu bod yn barod i gymryd camau pellach, ac ym mis Ebrill 2024 fe wnaethon nhw gyflwyno cwyn i Lys Masnach Nantes gan geisio hawlio 120.2m ewro (£104m) mewn iawndal.

Daw’r ffigwr hwn o golledion ariannol yr honnir i Gaerdydd eu profi o ganlyniad i ddisgyn o’r Uwch Gynghrair yn 2019.

Bydd tîm cyfreithiol Caerdydd yn cyflwyno tystiolaeth gan arbenigwyr gafodd eu cymeradwyo gan y llys, gan gynnwys adroddiad ystadegol gan y cwmni data pêl-droed FC Analytics, sy’n honni y gallai Emiliano Sala fod wedi rhoi hwb o hyd at 62% i obeithion y clwb o aros yn yr Uwch Gynghrair.

O ran y swm, mae’r iawndal yn seiliedig ar ddadansoddiad annibynnol o’r incwm a gollwyd ar ôl disgyn, effaith hirdymor ar werth y clwb, yn ogystal â’r ffi drosglwyddo wreiddiol.

Dydy Nantes heb ymateb i geisiadau am sylw ond mae’r clwb eisoes wedi gwrthod honiadau Caerdydd gan ddweud nad yw eu safbwynt wedi newid.


BBC News

See also  Etholiad 2024: Y farn ar y ffin

Check Also

Oedi llawdriniaethau newid rhywedd er mwyn cynnal ‘adolygiad brys’

Mae atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd mewn clinig wedi cael eu hoedi er mwyn …

Rob Brydon ‘regrets’ turning down Dolly Parton interview

The Welsh actor and comedian’s debut children’s book – The Cat in The Cupboard – …

Wrexham news: More accomplished Red Dragons need ‘A game’ at Swansea

Swansea goalkeeper Lawrence Vigouroux played his part in an eye-catching team move that was rounded …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime