
Roedd Jonah, sy’n artist ac yn ddylunydd graffig, yn teithio nôl i’r Borth ar ôl treulio penwythnos ym Mryste yn dathlu ei ben-blwydd, pan ddigwyddodd y ddamwain.
Ar ôl i’w drên daro’r trên llonydd dywedodd ei fod yn teimlo “fel bod popeth yn symud yn araf”.
Cafodd teithwyr ar wasanaeth 18:31 tua’r gorllewin o’r Amwythig i Aberystwyth, eu taflu o’u seddi. Ni chafodd Mr Evans anaf heblaw anaf atchwip (whiplash).
“Roedd gweld pawb yn ofidus yn ofnadwy… mae’n teimlo fel breuddwyd wael rywsut,” meddai.
“Roedd yna un ferch yn beichio crio yn uchel, roedd hi yn eistedd ger y bwrdd ac fe gafodd ei tharo yng nghanol ei chorff a dechreuodd chwydu,” meddai.
“Roedd e’n erchyll iawn.”
Dywed ei fod yn cofio gweld pobl o’i gwmpas gydag anafiadau i’w asennau, roedd braich un wedi torri ac roedd person arall wedi colli rhai dannedd.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!