google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhedwraig o Fôn yn gobeithio am fedal yng Ngemau’r Gymanwlad

Advertisements

Bydd tîm Cymru yn cystadlu ar draws 10 camp wahanol gyda 67 o athletwyr benywaidd a 48 o athletwyr gwrywaidd rhwng 16 a 73 oed.

Mae 22 o bara-athletwyr wedi eu dewis a bydd y gemau yn Glasgow yn cynnal mwy o ddigwyddiadau i bara-athletwyr nag erioed o’r blaen.

Ers blynyddoedd lawer, mae Cari Hughes o Ynys Môn, ond bellach yn gweithio yn yr Iseldiroedd, wedi bod yn hyfforddi’n galed.

“O’n i’n gyffrous pan ‘naeth tîm Cymru ffonio fi i adael fi wybod mod i’n mynd i’r gemau, ac mae’n deimlad braf cael rhedeg i Gymru, ‘da ni ddim yn cael y cyfle yn aml i redeg i Gymru, ‘da ni’n rhedeg i Brydain fel arfer.

“Mae’n deimlad sbesial iawn a ‘dwi’n edrych ymlaen at gael gwisgo’r cit coch.”

Cafodd Cari lwyddiant yng Ngemau’r Ynysoedd yn 2023, a hi ydi’r person cyntaf erioed o Fôn sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd ac sydd bellach yn symud ymlaen i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.

Dywedodd: “O’n i isio ‘neud Gemau’r Ynysoedd gan mod i heb neud nhw o’r blaen – o’n i wedi bod efo lot o anafiadau cyn hynny oedd wedi stopio fi rhag mynd i’r gemau.

“O’n i’n mynd mewn iddo ddim yn ffit o gwbl, trio enjoio ac mi ddes i allan efo cyntaf ac ail, o’n i’n hapus efo hynny a phrofiad da.”


BBC News

Views: 1

See also  Mum's shown no remorse, daughter says

Check Also

Craig Bellamy: Wales’ highs and lows since former captain took charge in 2024

Craig Bellamy appears destined to remain with Wales after his proposed switch to Burnley fell …

Maesteg mum-to-be on motherhood challenge with ADHD

With Hayley’s baby expected in just a few weeks’ time, she is determined to keep …

'Exploding car sets shop on fire' and 'Extreme heat blast'

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Heavy equipment transport hamilton tn. Pontoon boat transport. power only alabama.