google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Advertisements

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i gael ei llwyfannu mewn gofod theatrig ar gyfer un, dau neu dri pherfformiwr (nid o reidrwydd cymeriadau).

Roedd disgwyl i hyd y cynhyrchiad fod rhwng 15 a 30 munud.

Yn ôl y beirniaid, Gareth Evans-Jones a Mared Llywelyn, daeth 15 ymgais i law “mewn chwip o gystadleuaeth”, gyda phob sgript yn “ddiddorol ac yn arbennig” a’r beirniaid wedi mwynhau darllen pob un.

Cafodd y Fedal Ddrama ei rhoi er cof am yr actores a chynhyrchydd Audrey Mechell, gan ei merched Linda a Sandra a’i wyrion Elin, Gwen, Glesni a Cai.

Bydd gwaith Glain yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd, diolch i nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Fe fyddan nhw hefyd yn cael blwyddyn o fentoriaeth a chyfleoedd datblygu gyda Theatr Cymru, fel Dramodydd Preswyl Ifanc ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC.


BBC News

Views: 1

See also  Prince Philip Hospital: Minor injuries unit staff feel 'unsafe'

Check Also

Achos newydd yn erbyn dyn oedd wedi’i gyhuddo o dreisio yn Eisteddfod Boduan

Mae dyddiad wedi’i bennu ar gyfer achos o’r newydd yn erbyn ffermwr o Ddyffryn Conwy …

Woman caught on CCTV kicking £75k McLaren supercar on owner's driveway

Police are investigating the incident which has left the supercar with scratches on its bonnet. …

Cerddorion o Gymru yn Codi'r To yn Sweden

Criw ifanc o Gymru yn teithio i Sweden er mwyn perfformio yn y Scandinavium BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Cassinox üyelik avantajları.