google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod y Garreg Las

Daw’r coed ar gyfer y Gadair eleni, ynghyd â’r defnydd ar gyfer y glustog a charreg y Nod Cyfrin o ddalgylch Eisteddfod y Garreg Las, a bu hanes a diwylliant yr ardal yn ysbrydoliaeth fawr i Tomos Lewis wrth iddo fynd ati i gynllunio.

Dywedodd Tomos: “Mae blaen y Gadair wedi’i ysbrydoli gan gadair yr Arglwydd Rhys, sydd i’w gweld yng Nghastell Aberteifi. Gosodir y rhifau 2026 allan yn union fel y rhifau 1176 â siâp sgwâr cadarn.

“Mae cefn y Gadair wedi’i greu drwy uno tri darn o bren i gynrychioli’r siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, sef dalgylch Eisteddfod y Garreg Las.”

Daw Tomos Lewis yn wreiddiol o Langlydwen.

Mae’n gweithio fel athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, ac yn rhedeg busnes sy’n arbenigo mewn crefftwaith pren a gwaith ysgythru, sef Dail Pren.


BBC News

Advertisements

See also  Caerdydd: Nifer yn yr ysbyty wedi gollyngiad carbon monocsid posib

Check Also

Mark Drakeford says Labour made mistakes in failed mini-budget talks

Former First Minister Mark Drakeford says his Labour party colleagues made mistakes in how they …

Canfod corff dyn 'disglair a chariadus' mewn llyn ger yr Wyddfa

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 20 oed gafodd ei ganfod yn farw yn …

Saurichthys fish fossil found in Wales resolves teeth confusion

Researchers from Amgueddfa Cymru – Museum Wales worked with State Museum of Natural History Stuttgart …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime