google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pum munud gyda Bardd y Mis: Llŷr Gwyn Lewis

Llŷr Gwyn LewisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr Gwyn Lewis oedd Bardd y Mis cyntaf Radio Cymru nôl yn 2014 – ac ar ôl cyfnod eto yn 2017, mae o yn ei ôl ym mis Medi 2025.

Mae o’n wyneb a llais cyfarwydd ym myd barddoniaeth Gymraeg ac wedi bod yn talyrna ers blynyddoedd gyda’r Ffoaduriaid ac ymrysona gyda’r Penceirddiaid.

Fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, ac mae o newydd gyhoeddi ei drydedd gyfrol o farddoniaeth, Holl Lawenydd Gwyllt, gyda Chyhoeddiadau Barddas.

Yn enedigol o ardal Caernarfon, mae o bellach yn byw yn Rhuthun gyda’i wraig Lowri a’u tri o feibion.

Pryd dechreuoch chi farddoni?

Llyr yn fabi gyda'i dadFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr yn ei Eisteddfod Genedlaethol cyntaf – Bro Madog 1987 – yn 13 wythnos oed gyda’i dad

Dw i’n cofio trio odli ambell rigwm pan o’n i’n fach iawn – tua saith oed siŵr o fod. Roedd gen i un go hen ffasiwn am Y Fenai dw i’n siŵr.

Pwysicach ella ydi nad ydw i’n cofio amser pan nad oedd barddoniaeth yn rhan hollol naturiol o fywyd a chymdeithas – yn y capel, mewn digwyddiadau yn y dre.

Mi oedd Dad ar dîm Talwrn, a Nain yn sgwennu penillion pryd bynnag roedd ‘na ryw achlysur fel rhywun yn ymddeol neu ginio Merched y Wawr.

Felly trio’u copïo nhw oedd y peth naturiol i’w wneud rywsut!

Llŷr yn cystadlu yn ffeinal Y Talwrn gyda'r Ffoaduriaid yn 2015
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr yn cystadlu yn ffeinal Y Talwrn gyda’r Ffoaduriaid yn 2015

Lle fyddwch chi’n cael eich syniadau am gerddi a gwaith creadigol?

Yn fy ngherddi dw i’n tueddu i sgwennu lot am fy mhrofiadau eitha personol uniongyrchol fy hun – roedd hynna’n arfer bod yn gerddi serch a sgwennu am deithio i bob math o lefydd, ond bellach mae ‘na lot mwy o gerddi am waith, prysurdeb a phlant!

Rywsut dw i’n rhoi mwy o raff i’r dychymyg yn fy rhyddiaith – ond does ‘na ddim lot o hwnnw wedi’i sgwennu yn ddiweddar.

Rydych chi newydd gyhoeddi eich trydedd gyfrol o farddoniaeth, Holl Lawenydd Gwyllt. Sut mae eich gwaith wedi newid ers rhyddhau eich cyfrol gyntaf, ddegawd yn ôl?

Cyfrol Holl Lawenydd GwylltFfynhonnell y llun, Cyhoeddiadau Barddas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â barddoniaeth, mae Llŷr yn awdur dwy gyfrol ryddiaith, sef Rhyw Flodau Rhyfel a Fabula

Mae’n anodd i fi ddweud mewn ffordd achos sgen i ddim digon o bellter oddi wrth y gwaith. Dw i’n sicr yn gobeithio mod i wedi dysgu sgwennu yn fwy cryno a llai hirwyntog!

Mi ddywedodd fy ffrind Gruff yn ddiweddar mod i’n sgwennu’n fwy emosiynol erbyn hyn…

Dw i’n meddwl mai un peth sydd o ddiddordeb cynyddol i fi ydi cyfosod profiadau eitha personol, ‘domestig’ efo ystyriaeth ehangach o’r petha sy’n digwydd allan yn y byd, ac efo hanes hefyd.

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod – byw neu hanesyddol – pwy fydden nhw a pham?

O ystyried yr uchod – fy niddordeb mewn cyfosod profiadau personol efo digwyddiadau ‘mawr’ hanesyddol – bydda hi wedi bod yn wych (ond yn reit frawychus) cael bod yn esgidiau rhywun fel Guto’r Glyn, yn dyst i’r Rhyfel Can Mlynedd ac yna Ryfeloedd y Rhosynnau, gweld y syniad o Gymru fel endid yn dechrau ymgaregu, ac o bosib yn dadfeilio hefyd.

Un arall tebyg ond llawer mwy diweddar fyddai W. B. Yeats, fu’n dyst i newidiadau diwylliannol a gwleidyddol seismig wrth i’r Iwerddon fodern ymffurfio, a chwarae rhan yn y newidiadau hynny hefyd.

WB YeatsFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae ‘na rywbeth yn ddifyr hefyd yn y ffaith i’r ddau gael bywydau anarferol o hir – felly yn anochel maen nhw’n magu ryw synnwyr o berspectif, o edrych ar bethau o hirbell a theimlo newid pethau. Ond wedyn mi welodd y ddau lot o bethau go erchyll a bod yn dyst i lot o dollti gwaed hefyd, felly wedi meddwl eto wna i sticio at fod yn fi fy hun, diolch!

Dyn yn sefyll o flaen adeilad mawrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr o flaen adeilad y GPO yn Nulyn, canolbwynt Gwrthryfel y Pasg, yn dilyn ôl troed WB Yeats. Un o gerddi mwyaf adnabyddus Yates yw Easter 1916

Pan fyddwch chi ddim yn ysgrifennu, beth fyddwch chi’n hoffi’i wneud i ymlacio?

Beryg mai’r sgwennu ydi’r ffordd o ymlacio bellach, rhwng bob dim arall. Faswn i’n licio dweud: seiclo, mynydda, darllen, cerddoriaeth, ond dwi’n fwy tebygol dyddiau yma o fod yn sgrolio ar fy ffôn ar ddiwedd dydd – am fwy hyd at syrffed ar hyn gweler y gyfrol uchod Holl Lawenydd Gwyllt…

See also  Moment skydiver crash lands onto traffic light

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Rhybudd bod deddf celwydd gwleidyddion yn cyfyngu ar ryddid barn

Check Also

Moment paedophile arrested after sexually assaulting child in south Wales

This is the moment a fleeing paedophile carrying a knife who sexually assaulted a child …

Pembrokeshire driver in A40 crash was over legal limit – inquest

A drink-driver who hit a road sign and flipped his car killed himself and his …

Iawn i ddefnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd – Llywydd

Gellir defnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd, mae Llywydd y Senedd wedi penderfynu. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime