google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Plaid Cymru: Cynllun annibyniaeth i Gymru ond nid yn y tymor cyntaf

Advertisements

Mae Plaid Cymru wedi addo cyhoeddi cynllun ar gyfer annibyniaeth i Gymru – ond nid o fewn tymor cyntaf llywodraeth a fyddai’n cael ei harwain gan y blaid.

Yng nghynadledd y blaid yn Abertawe, cymeradwyodd aelodau gynnig eu harweinydd Rhun ap Iorwerth i sefydlu “comisiwn sefydlog” a fyddai’n siarad â’r cyhoedd am ddyfodol Cymru.

Cefnogodd aelodau gynlluniau i’r comisiwn baratoi papur gwyn ar annibyniaeth i Gymru, ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru nad oedd hynny “ar gyfer y tymor nesaf” petaen nhw’n llywodraethu.

Ni chafodd dyddiad ei nodi, ond roedd yna awgrym y gallai Plaid Cymru ystyried cynllun i sicrhau annibyniaeth i Gymru pe bai’n ennill etholiadau’r Senedd yn 2026 a 2030.

Wrth siarad yn y gynhadledd yn Abertawe dywedodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, bod Plaid Cymru yn barod i “ddisodli” Llafur yn etholiad nesaf y Senedd.

Mae’r blaid eisoes wedi cefnu ar eu hymrwymiad blaenorol o gael refferendwm ar annibyniaeth o fewn pum mlynedd – ymrwymiad a gafodd ei wneud yn ystod ymgyrch yr etholiad diwethaf yn 2021 o dan y cyn-arweinydd Adam Price.

Ym mis Mai dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, na fyddai refferendwm yn cael ei gynnal yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.

Yn ystod ei araith ddydd Gwener dywedodd y byddai ei blaid yn “hybu y drafodaeth genedlaethol ar annibyniaeth”.


BBC News

Views: 0

See also  Wales' papers: Family home ruined in blaze and Wales' richest man quits UK

Check Also

Starmer tells Plaid first minister he's 'open' to discussing more Senedd powers

It comes after a telephone call in which Sir Keir congratulated Plaid Cymru’s new first …

Women’s Six Nations: Gwen Crabb to miss Wales’ final game against Italy

Gwen Crabb will miss Wales’ final game of the Women’s Six Nations against Italy with …

Welsh rugby: The ecstasy and agony of selection for Wales players

Exeter back row Kane James is one of the new faces and probably the most …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Divorce private investigator las vegas – francis & associates. क्या है ivr धोखाधड़ी ?.