google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

20 wedi cystadlu am y Fedal Ddrama ar ei newydd wedd

Advertisements

Mae’r drafodaeth o gwmpas “helynt y fedal” yn rhan o gyd-destun ehangach.

Mae nifer wedi sôn wrtha i am y “pryder cyffredinol” am statws y theatr ar faes yr Eisteddfod.

Mae yna hiraeth hefyd am Theatr Fach y Maes a’r ddrama gomisiwn.

“Mae’n wych cael theatr ar draws y maes ayb ond dyw hynny ddim yn gallu cymryd lle perfformiadau mewn lle arbennig lle mae pobl yn gallu eistedd a gwylio,” ychwanegodd Sharon Morgan.

“Ewch chi ar hyd y maes ac fe welwch chi celf, gwerin, gwyddoniaeth – pob math o bethau ond welwch chi ddim mo’r gair theatr ac mae e fel petai bod y theatr yn cael ei ddiddymu yn gyfangwbl, ei ddiraddio yn llwyr gan yr Eisteddfod.”

Mae Kallum Wayman yn cytuno.

“Dwi’n hoffi ma’ rhywun yn gallu cerdded drwy y Steddfod a ffendio theatr yn digwydd. Ma’ hwnna’n brilliant. Mae o’n fantastic, ond mae o yn rhoi limitations ar pa math o theatr sy’n cael ei greu yn y Steddfod.

“Mae genno ni limitations ar tech, limitations ar lleoliad.

“Os oes gen ti rwla arbennig ar gyfer y theatr yna ni’n gallu rhoi high quality theatr lwyfan yn yr Eisteddfod.”

Yn ôl yr Eisteddfod mae’r gwaith theatr sydd wedi’i gyflwyno ar y maes dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawn “amrywiaeth” a “dychymyg” – ac yn dangos nad ydi drama yn “gyfyngedig i un ffurf nac un llwyfan”.


BBC News

See also  Leeds stun Leigh late on to move up to fourth

Check Also

Milford Haven boy, 16, who stabbed teacher in head sentenced to four years

Williams grabbed the knife, pushed the boy back with her legs, and screamed. She had …

Carcharu bachgen 16 oed am drywanu athrawes yn ei phen

Dywedodd Matthew Roberts, bargyfreithiwr y bachgen, fod yr hyn a wnaeth y diwrnod hwnnw “yn …

Disgraced ex-Reform Wales leader who took pro-Russian bribes must pay back £22k

The former leader of Reform UK in Wales has been ordered to pay more than …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime