google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Gymraeg a’r Wyddeleg yn ‘gallu dysgu gwersi o’i gilydd’

Advertisements

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod ganddi ddiddordeb “mewn dysgu gwersi am effaith darpariaethau deddfwriaeth Iwerddon”.

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i 20% o bobl sy’n cael eu recriwtio i’r sector cyhoeddus yn Iwerddon fod yn hyfedr yn y Wyddeleg erbyn 2030, ac y bydd pob swyddfa gyhoeddus yn ardal y Gaeltacht yn gweithredu trwy gyfrwng y Wyddeleg.

Ychwanegodd y comisiynydd wrth y pwyllgor bod cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd “yn un o flaenoriaethau ein cynllun strategol, dolen allanol newydd ar gyfer 2025-30 gan ein bod yn gweld bod creu, cynnal a chefnogi gweithleoedd Cymraeg yn rhan gwbl allweddol o’r strategaeth ar gyfer sicrhau hyfywedd y Gymraeg”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC eu bod yn “buddsoddi dros £2.5m yn y rhaglen Cymraeg Gwaith, sy’n cynnig hyfforddiant amrywiol a hyblyg i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle”.

“Mae’r cynllun wedi ehangu eleni i gynnig mwy o gyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant.”

Mae Cymraeg Gwaith, dolen allanol yn cael ei redeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod cyfleoedd eraill yn codi o feysydd polisi Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 “fyddai’n gallu cyfrannu’n helaeth at gyfleoedd i ddysgu a rhannu profiadau er hyrwyddo’r Gymraeg a’r Wyddeleg gan gynnwys yn y meysydd addysg, ymchwil ac arloesi; economi a masnach; cymunedau, diaspora a chwaraeon”.

“Byddai’n fanteisiol petai’r Gymraeg felly yn cael ei hymgorffori fel ystyriaeth wrth ddatblygu gwaith y llywodraeth yn y meysydd polisi hyn.”


BBC News

Views: 0

See also  We had sex in a Chinese hotel, then found we had been broadcast to thousands

Check Also

‘Port Talbot cystal ag unrhyw le yn y byd i leoli straeon mawr’

Mae’r awdur 35 oed yn dal i fyw gyda’i efaill Liam yn ei gartref teuluol …

Russell T Davies criticises 'privileged' Hollywood stars' intimacy coordinator comments

The Welsh screenwriter says intimacy co-ordinators offer protection to actors with less power. BBC News …

Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?

Canlyniad gêm hollbwysig Rygbi Caerdydd oddi cartref yn Ne Affrica yn wyth olaf y Bencampwriaeth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.