google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Profiad amhrisiadwy’ lansio sengl newydd CFfI Cymru

Advertisements

Dywedodd Will Hughes, aelod hŷn y flwyddyn gyda’r mudiad, fod bod yn rhan o’r prosiect wedi bod yn “gyfle arbennig”.

“Mae’n fersiwn ni o’r gân o Fel Hyn ‘da ni Fod gan Bwncath, ac mae’r trefniant wedi cael ei wneud gan Lisa Angharad.”

Wrth sôn bod y mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni, dywedodd ei fod yn “gyfle arbennig i gydweithio gyda BBC Radio Cymru er mwyn dathlu’r achlysur”.

Dyma’r ail sengl i’r mudiad ryddhau, ar ôl iddyn nhw recordio fersiwn o Bydd Wych gan Rhys Gwynfor yn 2020, a dywedodd ei bod yn “braf gallu gwneud e unwaith eto”.

Dywedodd fod y “broses recordio yn hynod o ddifyr i rywun sydd ddim yn llawer o ganwr a bod yn onest”.

“Roedd e’n ddifyr gweld sut oedd rhywun yn mynd ati i recordio mewn stiwdio.”

Dywedodd fod y cyfle yn “agored i unrhyw aelod o’r mudiad i roi eu henwau” ac y bu hi’n “braf gweld aelodaeth o bob sir yn dod ‘mlaen i gymryd rhan”.


BBC News

Views: 1

See also  Y cyn-weinidog Lee Waters i adael y Senedd yn 2026

Check Also

Enwi’r dau fu farw wedi gwrthdrawiad awyren fechan yng Ngwynedd

Fore Sadwrn ar Dros Frecwast dywedodd y Cynghorydd Elfed Powell Roberts, sy’n cynrychioli ardal Trawsfynydd, …

Safia Middleton-Patel: Wales goalkeeper joins Watford on loan from Man Utd

Wales goalkeeper Safia Middleton-Patel has joined Watford on loan from Manchester United for the duration …

Medal winner Azu sets sights on sub 9.9 seconds

Jeremiah Azu is targeting fresh records after returning from the European Athletics Championships with two …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Cart prime peptides. Cart chemyo labs.