google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Cyflymder dau gar wedi ‘codi ofn’ ar yrwyr eraill cyn gwrthdrawiad

Roedd Anthony Demery, o Abertawe, yn teithio tua’r de ar yr A483 y noson honno pan ddaeth ar draws y gwrthdrawiad oedd newydd ddigwydd.

Fe welodd “stêm neu fwg” ymhellach i fyny’r ffordd a pharcio’i gerbyd, a gweld wrth gerdded tua’r safle “X3 mewn darnau” ac Audi glas “yn fy lôn i, ond yn wynebu’r gogledd”.

Dywedodd wrth y rheithgor iddo weld, wrth gerdded heibio’r Audi, ddyn yn sedd y gyrrwr a dyn arall yn mynd i mewn ato.

“Ro’n i’n gallu clywed eu sgwrs,” meddai. “Glywais i’r gyrrwr yn dweud: ‘Tyrd, awn ni, Does dim byd fedran ni wneud’.

Roedd y dyn arall, meddai, yn ymddangos “yn syfrdan ac yn ddryslyd”, a dywedodd bod y ddau wedyn wedi gyrru tua’r Trallwng.

Wrth gael ei groesholi, gofynnwyd i Mr Demery am ran o’i ddatganiad i’r heddlu pan ysgrifennodd: “Roedd bron fel petae yna ddim byd allen nhw wneud.”

Mewn ymateb i gwestiwn ai ei asesiad ei hun oedd hynny, ynteu a oedd wedi clywed y geiriau, atebodd ei fod yn credu ei fod wedi eu clywed hefyd.


BBC News

Advertisements

See also  Bitcoin tip bid fails and trio follow couple home

Check Also

Neath Port Talbot council leader quits after becoming ‘heavily intoxicated’ at conference

A council leader who fell over while drunk after allegations he drank a “whole bottle …

Carcharu dyn am ladd dynes o Wrecsam wedi iddo ffoi rhag yr heddlu

Mewn datganiad, dywedodd Robert La Polla fod eu bywydau wedi cael eu dinistrio mewn eiliad. …

Welsh Lib Dem leader says party should be more exciting

Part of the solution, Dodds argued, was making sure people know the Liberal Democrats have …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime