google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth allwch chi ei fforio yn yr hydref?

Advertisements

Pan mae petalau’r rhosod i gyd wedi disgyn i ffwrdd diwedd yr haf, rydyn ni’n gweld aeron coch hyfryd yn y gwrychoedd. Mae egroes yn llawn antioxidants a fitamin C i gefnogi’r system imiwnedd. Roedd yn cael ei roi i blant yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel dôs o fitaminau am fod yna ddim llawer o ffrwythau sitrws ar gael.

Mae posib gwneud surop ohono i’w fwyta, neu olew sydd yn dda i’r croen oherwydd y fitamin A ynddo.

Mae’r hydref yn adeg gwych i hel cnau, gyda digon wedi’u gwasgaru ymysg y dail sydd wedi disgyn eleni.

Os ydych chi eisiau cynaeafu, mae cnau cyll yn fendigedig. Rhaid aros nes bod y cnau wedi disgyn yn naturiol i’r ddaear ac wedi dod allan o’r plisgyn allanol. Ar ôl casglu, dim ond eu gadael am gwpl o wythnosau mewn lle sych, ac fe fyddan nhw’n barod i’w bwyta.

Mae diod o flodau’r ysgaw yn boblogaidd, ond dwi’n gwneud surop o’r aeron yr adeg yma o’r flwyddyn hefyd. Mae’n llawn fitamin C, sy’n dda pan mae pawb yn dechrau cael annwyd.

Yr unig beth dwi’n ei wneud ydi ei roi o ar y stôf efo dŵr ac ychwanegu pethau eraill fel orennau, sinamon, clofs, mêl lleol, a’i droi mewn i surop.

Peidiwch â bwyta’r aeron o’r goeden; rhaid eu coginio nhw gan eu bod nhw’n gallu bod yn wenwynig.


BBC News

Views: 0

See also  Sut oedd Cymry yn arfer dathlu gŵyl San Steffan?

Check Also

Y gobeithion wrth i filoedd ddisgwyl canlyniadau Safon Uwch a mwy

Bydd miloedd o bobl ifanc yn derbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, BTec a chymwysterau …

The Hundred Cricket: What next for Welsh Fire?

After a comfortable 15-run win against London Spirit at Sophia Gardens, Michael Klinger’s side finished …

Firefighters on wildfires 'carnage' and Ospreys fight to win

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa basic units (battery carrier).