google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth ydy ‘Cymru’ mewn Klingon? Star Trek yn 60

Advertisements

A gan bo’ fi’n sôn am Mr Doohan, wnaeth ei allu ieithyddol ymestyn ymhellach, gan bod e’n un o’r tîm cynhyrchu wnaeth helpu i datblygu iaith y Klingons a’r Vulcans.

Ma ‘na rai sy’n barnu bod Klingon wedi’i seilio ar y Gymraeg, gan bod hi’n gwneud defnydd helaeth o “ch” ac “ll”. A galla i ddeall pam; gan bod y Cymry, fel y Klingons, yn wariars anrhydeddus sy’n hoff o yfed, a gyda thymer bur chwedlonol, bron, pan ma’ nhw’n cael eu amharchu.

Yn fwy diweddar yn yr ail gyfres o Star Trek: Discovery, ma’ ‘na olygfa ar fwrdd y llong ofod, Discovery, lle mae’r universal translator (y peiriant sy’n galluogi i bawb ddeall ei gilydd) yn torri. O ganlyniad, mae’r llong yn troi fewn i Dŵr Babel y dyfodol, wrth i’r criw cyfan ddechrau siarad mewn ieithoedd gwahanol.

Ymhlith yr holl siaradwyr, mae’r swyddog cyfathrebu, R.A. Bryce yn yngan brawddeg yn y Gymraeg. Mae’n weddol amlwg nad yw’r actor sy’n chwarae Bryce (Ronnie Rowe Jr) yn Gymro go iawn, gan bod ei fynegiant e ddim yn berffaith… ond mae yn weddol amlwg ma’r Gymraeg sy’n cael ei siarad.


BBC News

Views: 2

See also  Plaid Cymru am gychwyn ar gynllun taliad plant 'ar unwaith'

Check Also

Siân Phillips: 80 mlynedd disglair ar lwyfan a sgrîn

Meddai am ei magwraeth yn Sir Gaerfyrddin: “Roedd rhan fwya’ o’m mhlentyndod i yn y …

Bonnie Tyler’s home village of Mumbles prepares for emotional goodbye

The singer’s death has prompted an outpouring of condolences, with the community council organising a …

'Prydferth ac urddasol': Hanes y ddynes olaf i gael ei chrogi yng Nghymru

Mae llyfr newydd yn taflu amheuon dros fanylion yr achos yn erbyn Leslie James – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Regatta men’s hiking boots. elfbar elfliq liquid. hostrite cloud hosting news domains and service updates.