google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

S4C yn amddiffyn penderfyniad i ddarlledu cyfres am Neil Foden

Mae S4C wedi amddiffyn eu penderfyniad i ddarlledu cyfres ddrama newydd am y cyn-brifathro a phedoffeil, Neil Foden.

Cafodd cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.

Cyhoeddodd S4C ddydd Iau eu bod wedi comisiynu cyfres dair-rhan, sydd â’r teitl gweithredol Y Pennaeth, i’w darlledu yn 2027.

Maen nhw’n dweud y bydd yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i’r achos gan yr arbenigwr Jan Pickles.

Mae’r cyhoeddiad wedi denu beirniadaeth lem ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda sawl un yn dweud ei bod yn “warth” bod S4C wedi comisiynu’r gyfres.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd y prif swyddog cynnwys, Llion Iwan, fod sgyrsiau wedi bod gyda goroeswyr, ac erbyn darlledu’r rhaglen “mi fydd yna sawl blwyddyn wedi bod ers yr arestio a’r ddedfryd”.


BBC News

Advertisements

See also  Pentyrru gormodol: 'Fyddwn i ddim yn dymuno hyn ar fy ngelyn gwaethaf'

Check Also

Man bailed over 1993 unsolved Tooze murders faces no further action

Their daughter’s boyfriend Jonathan Jones was found guilty of their murders and sentenced to life …

World Rally Championship: Oliver Solberg turns up pressure on leader Elfyn Evans in Sardinia

The rally continues with a further 13 stages before the winner – and the 2026 …

Elite Ice Hockey League: Cardiff Devils seek home lift-off for title bid

The start of the 2026-27 season has also been hit by three players sustaining long …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime