google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymro a’i ddyfais sydd wedi ‘newid byd’ pobl â diabetes

Advertisements

Syniad Mr Jones oedd mesur lefel y glwcos yn yr hylif gwagleol sydd o gwmpas celloedd y corff.

Fe arweiniodd at y syniad o greu monitor glwcos parhaol fyddai’n cael ei osod fel ‘bathodyn’ bychan ar gefn y fraich er mwyn mesur yr hylif gwagleol yn y celloedd o dan y croen.

Mantais y system ydy bod y data yn cael ei gasglu yn gyson, yn gallu gyrru rhybudd os ydy lefelau yn rhy uchel neu’n rhy isel, a does dim rhaid gwneud pigiad bys sawl gwaith y dydd.

Ond gan mai’r hylif gwagleol sy’n cael ei fesur, mae’r data yn dangos beth oedd lefelau glwcos yn y gwaed tua chwarter awr ynghynt.

Mae’r system pigiad bys yn mesur y gwaed ac yn rhoi data manwl gywir o’r lefelau siwgr y foment honno.

Fe ddatblygodd Eurig Jones y syniad gyda phartner busnes Almaenig a’r bwriad oedd sefydlu’r busnes yng ngogledd Cymru.

Bu’n trafod gyda’r awdurdodau datblygu a gweithio ar gynlluniau busnes, ond mae’n dweud iddo gael ei siomi gyda’r diffyg gweledigaeth a diffyg cefnogaeth.

Meddai: “O’n i eisiau dod â fo i Gymru, i ogledd Cymru, ond yn anffodus, the powers that be – doeddan nhw ddim rili eisiau gwybod yng ngogledd Cymru.

So colled Cymru oedd o, ac wedyn [wnaethon ni] sefydlu cwmni tu allan i Munich, a chael buddsoddiad o £130m.

“Fysa hynna wedi newid dipyn ar Ynys Môn faswn i’n meddwl, ond dyna fo.”


BBC News

Views: 1

See also  'Erchyll' na fydd clwb o'r canolbarth yn y Cymru Premier

Check Also

Fire affects five homes in Newbridge, Caerphilly county

People have been evacuated after a large fire involving five bungalows in south Wales. Residents …

Bangor High Street to be ‘reinvented’ as task force announced

Gwenllian said a reform of business rates and planning rules will be examined, and recommendations …

Solar eclipse 2026 caught on camera across Wales

Most of Wales seemed to stop on Wednesday evening, to take in the biggest partial …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime