google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bachgen fu farw mewn cyflwr ‘erchyll’ yn cyrraedd ysbyty – nyrs

D7edbc20 45ee 11f0 b6e6 4ddb91039da1.jpg

Advertisements

Fe glywodd y llys hefyd ddatganiadau gan nifer o feddygon a aeth i weld Ethan y noson honno yn Ysbyty Iarlles Caer, gan gynnwys yr ymgynghorydd pediatrig, Dr Rupert Ellis.

Dywedodd bod derbyn Ethan i’r ysbyty’n “emosiynol iawn” a bod yr anafiadau’n cael eu hystyried yn “anafiadau nad oedd yn ddamweiniol”.

Ychwanegodd bod sgan CT wedi canfod bod gwaedlif ar yr ymennydd, gyda gwaed hen a newydd yn bresennol, ac fe benderfynwyd ei drosglwyddo i Alder Hey.

Dywedodd Dr Ellis fod y tîm wedi cael gwybod bod Ethan ar y gofrestr amddiffyn plant, a’i fod hefyd wedi rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am ei bryderon.

Yn gynharach, clywodd y rheithgor gan y parafeddygon a fynychodd cartref taid a nain Ethan yn Garden City y noson honno.

Disgrifiodd un, Dewi Lloyd, Ethan fel bachgen “gwelw a thenau” a’i fod yn edrych “fel dyn 90 oed” gyda’i asennau’n weladwy, a thri chlais ar ei foch chwith fel “patrwm llaw”.

Dywedodd Mr Lloyd fod Shannon Ives wedi teithio gyda nhw i’r ysbyty yn yr ambiwlans ond “roedd ganddi fwy o ddiddordeb yn ei ffôn”, meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cael gwybod.

Mae’r achos yn parhau.


BBC News

Views: 0

See also  Gohirio gwersi nofio oherwydd pwysedd dŵr isel

Check Also

‘Rhoi stamp ein hunain’: Edrych ymlaen at Eisteddfod 2027

Gyda siroedd yn cydweithio er mwyn cynnal yr Eisteddfod, dywedodd Rhian Evans, a oedd yn …

Tributes to A40 Carmarthen crash victim Gerard Trojanowski

The family of a man who died after being hit by multiple vehicles, including a …

Pentrefwyr yn galw am oedi chwythiadau chwarel wrth boeni am eu diogelwch

Yn sgil y dinistr a achoswyd yng Ngwaelod-y-garth fis diwethaf wedi chwythiad yn chwarel Ffynnon …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Where to buy : givenchy official website. elfbar elfliq cherry cola 20mg. Scarpa women’s hiking boots.