google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

Siân Phillips am gymryd cam yn ôl o’r llwyfan yn 93 oed

Yn ystod ymarferion ar gyfer Atonement yn Chichester Festival Theatre yn gynharach eleni yr oedd Phillips yn cael problemau cofio’i llinellau meddai wrth The Times.

Ond yn ôl y papur newydd, dywedodd y byddai’n parhau i berfformio yn ei sioe It’s All Greek ac mae hefyd i fod i ymddangos yn Rockaby ar gyfer Welsh National Theatre, Michael Sheen y flwyddyn nesaf.

Cafodd ei geni yng Ngwauncaegurwen, Castell-nedd Port Talbot, ond ei magu’n ferch fferm yn ardal Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin. Ac fe ddechreuodd ei gyrfa darlledu â hithau ond yn 11 oed ar ôl ennill cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd a newyddiadurwr cyn symud at actio.

Mae wedi ymddangos mewn cynyrchiadau fel The Archers ac addasiad o Tinker, Tailor, Soldier, Spy, llyfr John le Carré.

Cyn iddi lwyddo yn y byd actio fe weithiodd i BBC Cymru fel cyflwynydd a darllenydd newyddion.

Aeth ymlaen wedyn i fod yn un o actorion mwyaf clodwiw Prydain, gan ymddangos mewn cynyrchiadau gan gynnwys Doctor Who, Calendar Girls, Dune, ac I, Claudius.

Enillodd wobr BAFTA am ei phortread o Livia yn rhalgen I, Claudius y BBC ac fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Tony am chwarae’r brif ran yn Marlene.

Cafodd CBE yn y flwyddyn 2000 am ei gwasanaeth i ddrama, ac yna DBE yn 2016.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Cymru Premier: Caernarfon happy to be underdogs for final

Check Also

Heddwas wnaeth daro dyn naw gwaith ‘wedi gwneud dim byd o’i le’

Dywedodd PC Williams wrth y gwrandawiad ei fod yn defnyddio ei law chwith, a’i fod …

Cockroach-infested restaurant in Cardiff shut for having no hot water

A restaurant owner and his company have been fined more than £3,500 after a cockroach …

Mark Jones: Resilient Ospreys need certainty in Welsh rugby struggles

The WRU has stated that the process to decide the framework for the final decision …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime