google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Oedi llawdriniaethau newid rhywedd er mwyn cynnal ‘adolygiad brys’

Mae atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd mewn clinig wedi cael eu hoedi er mwyn “galluogi i adolygiad clinigol annibynnol brys gymryd lle”, yn ôl y pwyllgor sy’n comisiynu gwasanaethau arbenigol yn genedlaethol.

Dywedodd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC) mewn datganiad eu bod wedi penderfynu oedi atgyfeiriadau am lawdriniaethau o’r fath gan Wasanaeth Rhywedd Cymru (GRhC).

Mae GRhC yn glinig sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd ac felly o dan adain Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Cam rhagofalus yw’r adolygiad, meddai CBCGC a gafodd ei gymryd “ar sail cyngor clinigol i sicrhau bod atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhyw yn cael eu cefnogi gan drefniadau sy’n helpu i sicrhau bod gofal yn ddiogel ac o safon uchel”.

“I bwysleisio, oedi ydy hyn ac nid newid parhaol i’r gwasanaeth,” meddai’r llefarydd.

“Ar wahân i’r oedi o ran atgyfeiriadau llawfeddygol a llawdriniaethau, mae’r gofal sy’n cael ei ddarparu gan GRhC yn parhau heb newid.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gweinidogion wedi cyfarfod gyda CBCGC brynhawn Gwener i geisio cael “mwy o eglurder” am y penderfyniad.

Ychwanegon nhw eu bod “wedi derbyn sicrwydd mai oedi ydy’r penderfyniad a nid stopio”.


BBC News

Advertisements

See also  Jim Driscoll: Y bocsiwr tlawd a baffiodd i'r brig

Check Also

Off Campus star collaboration ‘gave me chills’, says Babydoll singer

The singer behind the TikTok viral hit Babydoll says collaborating with an Off Campus star …

Flintshire: Nurse who stole £750,000 from vulnerable 99-year-old struck off

A nurse who stole £750,000 from a vulnerable 99-year-old and spent the money on cosmetic …

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind. Fe …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime