google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pentrefwyr yn galw am oedi chwythiadau chwarel wrth boeni am eu diogelwch

Yn sgil y dinistr a achoswyd yng Ngwaelod-y-garth fis diwethaf wedi chwythiad yn chwarel Ffynnon Taf, mae nifer o bentrefwyr Glyn-coch yn galw ar y llywodraeth i ymyrryd a rhoi saib ar chwythu mewn chwarelu.

Maen nhw’n gofyn am ohiriad nes bod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch wedi cwblhau eu hymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn Ffynnon Taf a arweiniodd at lifogydd.

Roedd gwylio’r newyddion a gweld y dinistr yn nhai pobl yng Ngwaelod-y-garth, sydd ond chwe milltir i lawr y ffordd o Glyn-coch yn “drawmatig”, meddai Whiles.

Fel un sydd wedi arwain ymgyrch trigolion Glyn-coch yn erbyn ehangu Craig yr Hesg, fe ddywedodd Ms Whiles: “Roedd tai pobl â phump troedfedd o ddŵr ynddyn nhw a hynny oherwydd chwythiad yn y chwarel.

“Dydw i ddim eisiau i ni yma yng Nglyn-coch i fod y nesaf i ddioddef y fath beth.”

Dywedodd Heidelberg Materials UK fod proffil daearegol pob chwarel yn wahanol ac felly mae gan Craig yr Hesg broffil gwahanol i chwarel Ffynnon Taf.

“Bwysicach fyth, does dim dŵr o fewn Craig yr Hesg a fyddai’n peryglu diogelwch ein gweithrediadau na chwaith y gymuned.

“Yn ogystal â hynny, roedd y broses gynllunio ar gyfer ehangu maint y safle a lleoliadau’r cloddfeydd wedi dilyn proses o asesiadau manwl a gofalus iawn.”


BBC News

Advertisements

See also  Concerns over long waits for spinal surgery

Check Also

Anglesey almshouses to be converted into ‘affordable’ homes for young people

A Grade-II listed building that once provided charitable housing is set to be converted into …

Chwareli llechi hanesyddol a safle atyniad Zip World ar werth

Mae’r safle’n rhan o ardal llechi Gwynedd gafodd ei rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd …

Merched o’r gogledd am droi profiadau anodd canser yn rhai cadarnhaol

Yn ôl Sally Roberts sy’n ffotograffydd o Dremeirchion ac yn sylfaenydd y calendr Breast Friends, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime