google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2028

“Mi fydd hi’n faes traddodiadol,” meddai Betsan Moses, “ond mi fydd hi’n faes yn debyg i hon o ran bod yna docynnau a bydd yna furiau.”

Dyw union leoliad y Brifwyl ddim wedi ei ddewis eto, ond bydd y gwaith o baratoi yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Gelfyddydau y Chapter, Treganna, ar 9 Medi.

Bwriad y cyfarfod yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth, gwirfoddoli ac ymuno â’r gwaith o drefnu’r ŵyl a’r prosiect cymunedol fydd yn arwain ati.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod y trefnwyr yn “edrych ymlaen yn fawr” at ddechrau’r gwaith yng Nghaerdydd ac “adeiladu’r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf.

“Mae gan Gaerdydd hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr hyn sy’n siŵr o fod yn Eisteddfod gofiadwy ac ysbrydoledig,” meddai’r Cynghorydd Chis Weaver, Arweinydd Cyngor Caerdydd

Bydd enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2028 yn agor yr wythnos nesaf ac mi fydd y brifwyl ei hun yn cael ei chynnal rhwng 5 a 12 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Port Talbot: Man, 86, dies after being hit by car

Check Also

Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio ‘grym afresymol’ – gwrandawiad

Ym mis Mai 2023, cafodd yr heddlu eu galw i Borthmadog yn dilyn adroddiad am …

Brendon McCullum wants Kevin Pietersen to challenge methods in coaching role

McCullum said Pietersen was “shocked” when he first called him about “helping us challenge for …

Romanian driver who killed triathlete Rebecca Comins to be deported

Comins, 52, was nine minutes into a cycling time trial on the A40 near Raglan, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime