google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dim digon o academyddion yn defnyddio’r Llyfrgell Genedlaethol’

Advertisements

Dangosodd adolygiad yn 2020, dolen allanol, y mwyaf diweddar, bod nifer y rhai oedd yn defnyddio’r Llyfrgell Gen rhwng 2012-2019 wedi gostwng 54% – o 31,189 yn 2012-13 i 14,240 yn 2018-19.

Ond roedd yna gynnydd o 31% yn y nifer o bobl a gysylltodd a safleoedd digidol y llyfrgell – o 1.26m yn 2015-16, i 1.65m yn 2018-19.

Ers hynny mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi uno’r ddwy ystafell ddarllen, wedi agor yr Archif Ddarlledu Genedlaethol ac wedi cynnal sawl arddangosfa bwysig a phoblogaidd.

Ond mae’n rhaid cofio mai “llyfrgell ydan ni a’n bod yn ffynhonnell ysgolheigaidd hynod o bwysig”, meddai’r Athro ap Llwyd, sydd hefyd wedi’i ethol yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywed llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol eu bod wedi croesawu yn 2024 y niferoedd uchaf o ymwelwyr i’r safle yn Aberystwyth ers 2010, gyda 85,300 o bobl yn dod trwy’r drysau.

“Roedd cynnydd o 23% yn nifer defnyddwyr yr Ystafell Ddarllen rhwng 2022 a 2024 ac mae ein hadnoddau digidol yn rhan hanfodol o’r darlun, gyda datblygiadau arwyddocaol fel digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn rhoi mynediad at hanes pobl o bob rhan o Gymru, ac Archif Ddarlledu Cymru sydd â bron i hanner miliwn rhaglen wedi eu digido, yn cynyddu y deunydd sydd ar gael ar gyfer ymchwil.

“Cafodd ein hadnoddau ar-lein dros 1.8 miliwn o ymweliadau yn 2023-24 ac yn yr un cyfnod cafodd cynnwys digidol ehangach y Llyfrgell ar Wikipedia ei weld 207 miliwn o weithiau,” ychwanegodd llefarydd.


BBC News

Views: 0

See also  Etholiad '99: Alun Michael a’r Daeargryn Etholiadol tawel

Check Also

Lord Botham’s frustration as people question his grandson playing for Wales

England’s cricket team also represents Wales, although Lord Botham – known as “Beefy” – is …

Aur i ras wib merched Cymru ar drac seiclo Gemau’r Gymanwlad

Mae Cymru wedi ennill eu trydedd fedal aur hyd yma yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow ar …

Commonwealth Games 2026: Wales sprint team trio win Glasgow gold

Wales have won Commonwealth Games gold in the women’s team sprint at the Sir Chris …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Good tide edibles. elfbar elfa vape.