google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Islwyn Evans i dderbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Dywedodd Islwyn, a gafodd wybod ei fod wedi ennill y fedal yn ystod ymarfer côr, nad oedd yn “gwybod beth i feddwl” ar y dechrau a’i fod wedi ei “ddal allan yn gyfan gwbl”.

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf i’w gael a beth mae’r wobr yn ei olygu a’r rhai sydd wedi ei dderbyn ar hyd y blynyddoedd,” meddai.

Wrth gyflwyno enwebiad Islwyn Evans am yr anrhydedd dywedodd Iwan Griffiths: “Mae’n amhosib mesur yr oriau ychwanegol y mae Islwyn yn eu rhoi heb ofyn am yr un geiniog.

“Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig o fewn cymuned Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd yn fwy na hyfforddiant lleisiol.

“Mae’n rhoi gofod diogel lle mae plant a phobl ifanc yn meithrin hyder, cael cyfle i fynegi eu hunain, a datblygu ymdeimlad o berthyn.”

Bydd Islwyn Evans yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Pafiliwn am 12:00 ddydd Mawrth, 4 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  'Mor bwysig i gynghorau beidio gwerthu ffermydd rhent'

Check Also

Sir Tom Jones tells fans he thought life ‘was over’ after flu

Sir Tom Jones has told fans he feared his life was “over” after being admitted …

Llangollen neighbours complain shed was built without permission

Neighbours who say they have been left “totally hemmed in” by a large timber shed …

Newport to host men’s professional tennis in 2027

Newport Tennis Centre will host Wales’ highest level men’s tournament next year. Taking place from …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime