google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Aur i ras wib merched Cymru ar drac seiclo Gemau’r Gymanwlad

Mae Cymru wedi ennill eu trydedd fedal aur hyd yma yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow ar ôl ennill y tîm ras wib i ferched ar y trac seiclo.

Fe wnaeth Emma Finucane, Rhian Edmunds a Lowri Thomas drechu tîm Lloegr yn y ffeinal, gan osod record newydd ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn y broses – 46.760 eiliad.

Cyn hynny fe enillodd y para-seiclwr James Ball arian yn y ras tandem 1,000m yn erbyn y cloc, gyda’i beilot Matt Rotherham.

Dyma oedd y trydydd gemau yn olynol iddo ennill arian yn y gamp.

Fe lwyddodd Cymru hefyd i ennill efydd ar y trac seiclo yn y ras cwrso tîm, gyda Megan Barker, Jessica Roberts, Anna Morris a Ciara Oliva yn trechu Lloegr yn y ras i orffen yn drydydd.

Mae Cymru bellach wedi ennill 18 medal hyd yma – tair aur, chwe arian a naw efydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Pleidlais o ddiffyg hyder yn Gething yn debygol ar 5 Mehefin

Check Also

How – and why – Welsh football’s top division is changing like never before

The juxtaposition of new tech being used in a league where volunteers are still vital …

Cymru gyfan bellach mewn sychder swyddogol

Mae statws sychder bellach wedi cael ei ymestyn i gynnwys Cymru gyfan, wrth i’r cyfnod …

Pwy sy’n cofio Regata Rhwyfo Gemau’r Gymanwlad ar Lyn Padarn, Llanberis?

Ochr yn ochr â gwobr efydd y pedwarawd rhwyfo, hawliodd Cymru ddeg medal arall yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa prefilled pod blueberry nikotinfrei.