google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pleidlais o ddiffyg hyder yn Gething yn debygol ar 5 Mehefin

Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder pan fydd aelodau’r Senedd yn dychwelyd yr wythnos nesaf.

Credir bod y Ceidwadwyr Cymreig yn debygol iawn o alw am bleidlais o’r fath ar gyfer 5 Mehefin.

Mae gan y blaid tan 18:00 ddydd Mercher i wneud hynny.

Mae Mr Gething wedi bod o dan bwysau mawr, gan gynnwys gan rai o fewn ei blaid, yn dilyn ei benderfyniad i dderbyn rhoddion gwerth £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth ddiweddar gan gwmni sy’n eiddo i ŵr sydd wedi eu erlyn ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae gan Lafur 30 o’r 60 sedd yn y Senedd, felly i’r cynnig o ddiffyg hyder lwyddo byddai angen i o leiaf un AS Llafur bleidleisio o blaid neu ymatal.


Source link

See also  Y bardd a'r saer maen Hedd Bleddyn wedi marw yn 87 oed

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime